Mae Bluestone yw un o brif ganolfannau gwyliau Cymru.
Mae Bluestone wedi ymrwymo i gynaliadwyedd ers i’r ganolfan agor gyntaf yn 2008, ond gwnaeth welliannau neilltuol ar draws y safle i fodloni safonau Goriad Gwyrdd.
Beth ddenodd chi yn y lle cyntaf i’r Goriad Gwyrdd?
Cawsom ein denu i’r Goriad Gwyrdd fel gwobr lletygarwch penodol a’r ffaith mai Cadwch Gymru’n Daclus oedd yn rheoli’r wobr yng Nghymru.
Dywedwch wrthym am unrhyw newidiadau a wnaethoch chi i gyflawni meini prawf y Goriad Gwyrdd?
Y newid fwyaf oedd gosod bron i 1,000 o awyryddion i’r cawodydd i leihau llif. Bydd hyn yn lleihau maint o ddwr s’yn cael ei ddefnyddio yn ein cabanau o fwy na 25 y cant. Rydym eisoes wedi gweld gostyngiad mewn materion y gwesteion sy’n gysylltiedig hefyd a gwacad dwr poeth.
Beth yn eich barn chi yw’r manteision o gael eich achredu gyda gwobr y Goriad Gwyrdd?
Y manteision allweddol i ni yw bod y Goriad Gwyrdd yn wobr a gynabyddir led led y bud, sy’n helpu ni i weithredu cynllun gwella hir dymor. Mae’r wobr hefyd yn ein galluogi i fanteisio ar gefnogaeth y Goriad Gwyrdd a Cadwch Cymru’n Daclus ynglyn a’r datblygiadau.
Sut ydych chi’n cynnwys elfen addysg y wobr yn eich busnes?
Rydym yn falch i arddanghos logo y Goriad Gwyrdd ar hafan ein wefan ac mae gennym adran benodol ar gyfer .y Goriad Gwyrdd ar dudalennau cynaliadwyedd y wefan. Mae rhaglen sefydlu ein cwmni – sy’n cael ei fynychu gan bob un o’n gweithwyr newydd – yn cynnwys gwybodaeth am y Goriad Gwyrdd, ac mae Marten Lewis, Pennaeth Cyfrifoldeb y Goriad Gwyrdd Corfforaethol Bluestone, hefyd yn siarad yn y sioe deithiol sy’n ymgysylltiol o’r holl staff.
Beth yw’r agwedd fwyaf heriol i’r wobr yn eich barn chi?
Dim o gwbl.
Roedd y Goriad Gwyrdd yn gam ymlaen mawr i Bluestone. Rydym wedi gweld gwelliant gwirioneddol yn ein cymwysterau cynaliadwyedd fel rhan o’r broses, ac wedi cael cefnogaeth gwych gan staff y Goriad Gwyrdd ar faterion fel rheoli dwr llwyd ac ol troed carbon. Mae’r Goriad Gwyrdd wedi bod yn lwyfan gwych i ymgysylltu a’n staff a’n gwesteion hefyd. Gwobr eco syml sy’n gysylltiedig a lletygarwch sy’n hawdd ei ddeall a’i chyfleu Mae ‘na lawer o wobrau gwyrdd ac eco o gwmpas, ond mae’r Goriad Gwyrdd cyd fynd yn dda ar gyfer Bluestone. Marten Lewis, Bluestone Resorts Ltd
Marten Lewis, Bluestone Resorts Ltd