A A A

Hyrwyddo’r economi gylchol ym Mhrifysgol Bangor

Mae Caru Cymru yn fudiad cynhwysol wedi ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid awdurdod lleol i ddileu sbwriel a gwastraff. Nod Caru Cymru yw ysbrydoli pobl Cymru i weithredu a gofalu am ein hamgylchedd. Nid yw’n ymwneud â glanhau yn unig; mae hefyd am atal sbwriel rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Yn dilyn ymgynghoriad â phartneriaid, amlygwyd tipio anghyfreithlon fel mater allweddol i fynd i’r afael ag ef gydag ymgyrch cenedlaethol.

Targedodd cam un o’r ymgyrch fyfyrwyr – gan eu haddysgu ar ymddygiad cywir yn ymwneud â gwastraff a hyrwyddo trwsio ac ailddefnyddio trwy gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu yn y brifysgol, yn cynnwys caffi trwsio cyntaf Prifysgol Bangor.

Holi ac Ateb

Pam canolbwyntio ar fyfyrwyr?

Dangosodd ymchwil helaeth a wnaed gan Dîm Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru’n Daclus fod myfyrwyr a phreswylwyr eraill Tai Amlfeddiannaeth yn debygol o brofi materion penodol a allai greu gwastraff gormodol a thipio anghyfreithlon posibl. Mae’r rhain yn cynnwys trosiant uchel tenantiaid, diffyg profiad o drefniadau gwastraff ac ailgylchu lleol, a rhannu cyfleusterau bin gydag aelwydydd anghysylltiedig.

Beth ddigwyddodd ym Mhrifysgol Bangor a phwy oedd yn gysylltiedig?

Ym mis Hydref 2022, helpodd Cadwch Gymru’n Daclus i sefydlu caffi trwsio cyntaf Prifysgol Bangor ar y campws, oedd wedi ei arwain gan fyfyrwyr, mewn cydweithrediad ag Undeb y Myfyrwyr, Caffi Trwsio Cymru, Cyngor Sir Gwynedd a Petha (Llyfrgell Pethau Gwynedd). Cafodd gwirfoddolwyr eu recriwtio o blith y myfyrwyr i gynnig cymorth TG, trwsio dillad a beiciau.

Roedd i gyd yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff Prifysgol Bangor, roddodd hefyd gyfle i bartneriaid siarad yn uniongyrchol â myfyrwyr am leihau gwastraff.

Beth oedd yr effaith?

Hysbyswyd cannoedd o fyfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn byw ar eu pen eu hunain am y tro cyntaf, am bwysigrwydd creu aelwydydd cynaliadwy.

Gwahoddwyd aelodau o’r gymuned i weld y caffi trwsio ar y campws ar waith hefyd a dysgu am werth trwsio ac ailddefnyddio eitemau’r cartref.

A gafodd digwyddiadau eu cynnal unrhyw le arall yng Nghymru?

Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu tebyg mewn prifysgolion ar draws y wlad. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • – Gwasanaeth ailgylchu dros dro ym Mhrifysgol Caerdydd
  • – Gweithgaredd curo drysau a chaffi atgyweirio ym Mhrifysgol Abertawe
  • – Cyfnewid dillad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd
  • – Digwyddiad ymgysylltu cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam

Cafodd cam un o’r ymgyrch tipio anghyfreithlon – ‘Ddim yn Olwg Da’ – ei rannu gyda phob prifysgol trwy’r pecyn cymorth ar-lein gan arwain at ymgysylltu helaeth ar sianeli digidol.

Cafodd hysbysebion ‘Ddim yn Olwg Da’ eu harddangos ar fysiau, safleoedd bws, bariau lleol, lleoliadau cerddoriaeth a sinemâu ar gampysau prifysgol ac o amgylch. Ymddangosodd negeseuon ar lwyfannau ffrydio hefyd fel Spotify ac Apple Music, gan dargedu pobl ifanc rhwng 18-25 oed.

Beth yw cynlluniau’r brifysgol i’r dyfodol?

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor nawr yn cynnal digwyddiadau caffi trwsio rheolaidd ar y campws ynghyd â Chaffi Trwsio Cymru. Y nod yw denu gwirfoddolwyr gyda sgiliau mwy amrywiol er mwyn i’r digwyddiadau barhau i gynyddu.