A A A

Mae Fy Nghwm Gwyrdd, sydd wedi ei leoli yng Nghwm Tawe, yn sefydliad cymunedol a sefydlwyd i gadw Cwm Tawe yn wyrdd, yn lân ac yn hardd i bawb ei fwynhau.

Yn 2023, dechreuwyd cyflwyno ‘Addewid Cae Gwyrdd’ i fynd i’r afael â sbwriel oedd yn cael ei adael o amgylch caeau chwaraeon. Trwy roi gorsafoedd ‘casglu cyflym’, maent yn ei wneud yn hawdd i glybiau lleol glirio sbwriel o’u caeau cyn ac ar ôl sesiynau hyfforddi a gemau.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol, print ac ar-lein wedi helpu’r prosiect hwn i fynd o nerth i nerth.

Pryd wnaethoch chi sefydlu grŵp cymunedol Fy Nghwm Gwyrdd gyntaf?

Yn 2019, dechreuodd sawl Arwr Sbwriel yn ardal Pontardawe gwrdd. Roedd gennym y syniad o gydlynu holl ymdrechion ein cymuned a ganwyd syniad Fy Nghwm Gwyrdd. Cawsom gefnogaeth gan swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus a helpodd ni i ddrafftio cyfansoddiad, sicrhau offer codi sbwriel ac yswiriant grŵp cymunedol.

Sut gwnaethoch chi ddatblygu Addewid Cae Gwyrdd?

Roedd y grŵp yn cydnabod bod angen gwirioneddol i weithredu ar feysydd chwaraeon ac o’u hamgylch, felly dechreuwyd cysylltu â thimau chwaraeon amrywiol oedd yn defnyddio’r cyfleusterau hyn.

Y syniad oedd rhoi gorsaf ‘casglu cyflym’ i bob maes, gan alluogi sbwriel i gael ei gasglu cyn, yn ystod ac ar ôl sesiwn hyfforddi a gemau.

Ar ôl treulio dros 100 o oriau yn edrych ar syniadau cynllunio, creu prototeip a ceisio cael cyllid, yn y pen draw cawsom gefnogaeth gan ddau gyngor tref lleol a Fferm Wynt Betws.

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau yn cyflwyno Addewid Cae Gwyrdd?

Cafodd y prosiect ei ohirio oherwydd Covid, ond llwyddwyd i ddylunio a chreu prototeip erbyn canol 2022.

Treuliwyd y flwyddyn nesaf yn ceisio ymgysylltu clybiau. Roedd hyn yn anodd i ddechrau, ond ar ôl i un neu ddau o glybiau ymuno, roedd yn llawer haws cael eraill i gytuno – roeddent yn ei weld fel cyhoeddusrwydd da ac eisiau bod yn rhan o hynny.

Sut gwnaethoch chi roi cyhoeddusrwydd i’r prosiect?

Fe wnaethom estyn allan i sefydliadau chwaraeon pwysig fel Chwaraeon Cymru, FA Cymru, Criced Cymru ac Undeb Rygbi Cymru. Mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn gefnogol iawn o’r prosiect hwn yn hyrwyddo buddion y Gorsafoedd Casglu Cyflym.

Fe wnaethom hefyd lwyddo i gael arwyr chwaraeon lleol i helpu gyda’n cyhoeddusrwydd, yn cynnwys cyn-chwaraewr rygbi’r Gweilch a Chymru, Duncan Jones, a ddisgrifiodd Addewid Cae Gwyrdd fel “menter wych…Mae’n golygu bod pobl yn gallu dod i gae chwarae yn gwybod y bydd yn amgylchedd glân, diogel iddynt ei fwynhau”.

Rydym wedi cael ceisiadau gan glybiau chwaraeon eraill ymhellach i fyny’r cwm, sydd hefyd eisiau cymryd rhan, ac mae’n wych gweld bod Clybiau Chwaraeon yn gallu gweld buddion cael Gorsaf Casglu Cyflym ac wedi croesawu’r syniad.

Pa rôl y mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi ei chwarae yn eich llwyddiant? 

Mae tudalen Fy Nghwm Gwyrdd ar Facebook wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd; mae gennym bellach bron 1,400 o ddilynwyr. Mae’n ffordd wych o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned ehangach am ein digwyddiadau codi sbwriel rheolaidd, yn ogystal â denu gwirfoddolwyr newydd.

Gydag Addewid Cae Gwyrdd, fe wnaethom ddefnyddio grwpiau a thudalennau Facebook lleol eraill i roi mwy o lais i’n neges, wnaeth roi rhywfaint o bwysau cymdeithasol ar glybiau.

Rydym bellach yn cael clybiau’n cysylltu â ni am orsafoedd a manylion ynghylch cymryd rhan.

Beth nesaf i Fy Nghwm Gwyrdd?

Yn ogystal â’n hymdrechion parhaus yn cadw ble rydym yn byw yn lân, yn wyrdd ac yn hardd i bawb gyda’n digwyddiadau codi sbwriel rheolaidd, ein prosiect mawr ar gyfer 2024 yw cydweithrediad gydag ysgolion lleol i greu rhaglen addysg, lle byddwn yn croesawu ac yn hyfforddi Llysgenhadon newydd.

I ganfod mwy am Fy Nghwm Gwyrdd, ewch i dudalen Facebook.

A oes gennych stori lwyddiant i’w rhannu gyda grwpiau cymunedol eraill?

Ymunwch â’n Grŵp Facebook

Wedi ei gynllunio i gefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol.

Dewch yn aelod