Yn ei anterth yn y 19eg ganrif, roedd Coed Cwm Penllergaer yn enghraifft o dirwedd liwgar, ramantus, wedi ei greu ar gyfer hamdden ac ysbrydoliaeth eu perchnogion. Ond, erbyn diwedd yr 20fed ganrif, roedd yr ystâd oedd ar un adeg yn ffyniannus, wedi mynd â’i ben iddo.
Roedd ffurfio Ymddiriedolaeth Penllergaer yn 2000 yn drobwynt i’r safle. Diolch i ymdrechion diflino staff a gwirfoddolwyr, mae wedi cael ei adfywio yn fan gwyrdd cynhwysol, sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd ac achrediad Treftadaeth y Faner Werdd. Yn fwyaf diweddar, mae Coed Cwm Penllergaer wedi ennill y Wobr Prosiect Treftadaeth Gorau yng Ngwobrau y Gorau o’r Goreuon Baner Werdd y DU 2024, sydd yn dyst i’r gwaith rhagorol yn dathlu ei arwyddocâd hanesyddiol.
Dewch i ni archwilio’r trawsnewidiad anhygoel i’r safle penigamp hwn.
Am ddegawdau, roedd Coed Cwm Penllergaer yn lleoliad ymddygiad gwrthgymdeithasol, oedd yn ei wneud yn lle annymunol ac anhygyrch i lawer. Trwy strategaethau rheoli cadarn, mae’r Ymddiriedolaeth wedi mynd i’r afael â’r heriau hyn, gan greu amgylchedd croesawgar sydd yn denu ymwelwyr drwy’r flwyddyn. Mae miloedd bellach yn mwynhau’r coed fel lle ar gyfer hamdden ac ysbrydoliaeth.
Gyda’r gweithgareddau gwrthgymdeithasol yn cyfrannu at broblemau sbwriel sylweddol yn flaenorol, sefydlodd yr Ymddiriedolaeth raglen gynnal a chadw drylwyr. Gyda chymorth Cynllun Grant Cadwch Gymru’n Daclus, cawsant offer codi sbwriel a chynhaliwyd digwyddiadau codi sbwriel cyhoeddus rheolaidd. Ynghyd â hyn, mae’r Ymddiriedolaeth yn hyrwyddo arferion cynaliadwy, yn cynnwys gwastraff gwyrdd ar y safle i’w ddefnyddio yn yr Ardd Coetir. Mae deunyddiau fel tomwellt dail, toriadau glaswellt, a hyd yn oed gwaddodion coffi o’r siop goffi ar y safle yn cael eu hailddefnyddio i gyfoethogi’r pridd. Mae’r safle hefyd yn defnyddio gwydr, caniau, cardfwrdd a phapur wedi ei ailgylchu trwy bartneriaeth â Dinas Abertawe a’r Cyngor.
Mae’r camau breision diweddar tuag at gynaliadwyedd hefyd wedi gwneud Coed Cwm Penllergaer yn arloesol o ran ynni adnewyddadwy. Mae’r ganolfan newydd i ymwelwyr yn cynnwys pympiau gwres a gosodiadau solar, wedi eu hategu gan dwrbin hydrodrydanol ar yr afon, gan alluogi’r safle i fod yn garbon niwtral.
Tan yn ddiweddar, roedd diffyg lle neilltuol ar y safle i ddangos ei dreftadaeth gyfoethog. Mae’r ganolfan ymwelwyr sydd newydd agor bellach yn pontio’r bwlch hwn, yn cynnwys sgriniau rhyngweithiol, murluniau, a lluniau hanesyddol. Gall ymwelwyr archwilio gorffennol hynod yr ystâd, o’i gyfraniadau arloesol i ffotograffiaeth, garddwriaeth, a seryddiaeth, i’w rôl arwyddocaol mewn darganfyddiadau gwyddonol.
Fe wnaeth yr ymdrechion adfer ymestyn i’r gerddi, llae mae gwirfoddolwyr wedi adfywio’r cynlluniau plannu hanesyddol ac wedi adfer y gerddi â muriau o’u cwmpas. Mae gwerth y mannau hyn o ran treftadaeth bellach yn gadarn ym meddyliau ymwelwyr, sydd yn cael eu gwahodd i werthfawrogi hanes garddwriaethol unigryw y safle.
"Rydym wrth ein bodd i fod wedi cadw ein statws Baner Werdd ac wedi ennill statws Treftadaeth y Faner Werdd. Mae’r anrhydeddau hyn yn dathlu ymroddiad anhygoel ein gwirfoddolwyr a’n tîm yn adfer y safle hanesyddol hwn ac yn rhannu ei stori gyda’r cyhoedd." Mae Paul Baker, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Coed Cwm Penllergaer yn rhannu’r canlynol.
Mae Paul Baker, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Coed Cwm Penllergaer yn rhannu’r canlynol.
Trefnwch eich ymweliad heddiw a phrofwch ryfeddod Coed Cwm Penllergaer.