Mae Grŵp Afonydd Caerdydd (CRG) wedi bod yn edrych ar ôl y cyrsiau dŵr yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ers 2009. Maent yn cynnal digwyddiadau glanhau bob tair wythnos ac mae ganddynt dros 800 o wirfoddolwyr ar eu rhestr o aelodau.
Mae’r grŵp yn creu incwm sylweddol o fetel, batris ceir a cheblau trydanol wedi eu hailgylchu, sydd yn helpu i dalu eu costau.
Sut mae eich cynllun ailgylchu metel yn gweithio?
Rydym yn gludwr gwastraff cofrestredig ac yn defnyddio ein cerbyd ac ôl-gerbyd i gasglu metel o Gaerdydd i gyd.
Mae eitemau’n cael eu symud o’r amgylchedd lleol gan wirfoddolwyr mewn digwyddiadau codi sbwriel mewn grwpiau ac yn cael eu rhoi gan unigolion a sefydliadau lleol sydd eisiau ailgylchu a chodi arian ar gyfer ein grŵp.
Rydym wedyn yn mynd â’r metel i gael ei bwyso gan European Metal Recycling (EMR), prosesydd metel sgrap a deunydd gwastraff sydd wedi ei leoli yn Nociau Caerdydd. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ailgylchodd CRG dros 47 o dunelli o sgrap wnaeth greu dros £15,000.
Ond nid yw popeth yn troi’n sgrap fodd bynnag. Mae llawer yn dal yn weithredol ac felly rydym naill ai’n gwerthu’r eitemau hyn neu’n eu rhoi i grwpiau eraill.
Pa adnoddau sydd eu hangen i gynnal y cynllun?
Mae pethau ymarferol fel cael cerbyd, ôl-gerbyd a thanwydd i gasglu a chludo’r metel. Mae angen offer a PPE arnom hefyd, yn ogystal â rhywle i ddidoli a storio’r eitemau sydd wedi eu casglu.
Mae amser yn adnodd hanfodol arall. Nid yn unig o ran amser gwirfoddolwyr i gynnal casgliadau, didoli a phwyso’r eitemau, ond hefyd amser sy’n cael ei dreulio yn hyrwyddo’r cynllun trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ar e-bost ac ar lafar.
Ond mae’r amser hwn wedi cael ei dreulio’n dda – mae gennym bellach bobl sydd yn cysylltu i drefnu casgliadau neu’n dod â ‘thrysor’ gyda nhw i’n digwyddiadau.
Sut mae’r cynllun wedi datblygu?
Rydym yn falch o fod wedi ffurfio partneriaeth gyda llawer o grwpiau codi sbwriel bach, lleol a chymdeithasau rhandir, ac wedi eu cefnogi. Maent wedi casglu a chadw eu metel sgrap eu hunain, ac rydym wedi gallu ei werthu ar eu rhan. Mae’r arian wedi cael ei roi yn ôl i’r grwpiau hyn i helpu i dalu am gost pethau fel yswiriant.
Rydym hefyd wedi sefydlu trefniadau partneriaeth mwy rheolaidd, mwy o faint a mwy llewyrchus gyda Gwasanaethau Parcmyn Cyngor Caerdydd a’r Fro, Pedal Power a Nextbike.
Fe wnaethom sicrhau offer pweredig a hyfforddiant i alluogi ein gwirfoddolwyr i ymdrin ag eitemau trymach, mwy, fel ceir a beiciau modur sydd wedi cael eu gadael.
Y datblygiad mawr arall yw’r gallu i ailgylchu cistiau ocsid nitrus sydd yn bla ar strydoedd Caerdydd. Nid oedd hyn yn bosibl pan ddechreuwyd gweithio gydag EMR oherwydd materion diogelwch, ond roeddem yn gallu creu system sydd yn galluogi’r cistiau i gael eu pwyso ar wahân. Y llynedd, fe wnaethom ailgylchu 2,750 o gistiau ocsid nitrus.
Ein nod o’r cychwyn oedd gwneud CRG mor hunangynhaliol o ran cyllid ag y gallem. Roeddem hefyd eisiau dangos y gallem wneud hynny trwy’r hyn yr ydym yn ei lusgo allan o afonydd a thrwy helpu pobl i waredu eu gwastraff mewn ffordd briodol. Trysorydd CRG
Trysorydd CRG
I ganfod mwy am Grŵp Afonydd Caerdydd, ewch i’w gwefan cardiffriversgroup.org.uk neu dilynwch nhw ar X.