Wedi’u lleoli yn nhref glan môr Pensarn, Conwy, mae Pensarn Pickers yn grŵp cymunedol wnaeth sefydlu i helpu i gadw’r traeth a’r promenâd yn lân ac yn daclus i bawb eu mwynhau.
Mae cefnogaeth busnesau lleol wedi helpu’r grŵp hwn i barhau â’u gwaith anhygoel trwy ariannu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus y grŵp.
Pryd wnaethoch chi sefydlu grŵp cymunedol Pensarn Pickers?
Nôl yn 2021, dechreuodd rhai o’r preswylwyr gwrdd i lanhau rhywfaint o’r sbwriel cynyddol oedd yn cael ei adael ar y traeth a’r promenâd. Fe wnaethom gysylltu â Cadwch Gymru’n Daclus, a rhoddodd y swyddog prosiect lleol arweiniad i ni ar iechyd a diogelwch a chyfansoddiad grŵp. Cawsom hefyd fwy o offer codi sbwriel sydd wedi galluogi mwy o bobl i gymryd rhan yn y digwyddiadau glanhau wythnosol.
Ydych chi wedi wynebu unrhyw heriau? Os felly, sut gwnaethoch chi eu goresgyn?
Daethom ar draws rhwystrau pan wnaeth y rheolau’n ymwneud ag yswiriant grŵp newid. Nid ydym yn gwneud unrhyw weithgareddau codi arian ac roeddem yn ansicr sut i ariannu costau yswiriant y grŵp.
Am ein bod allan yn codi sbwriel bob wythnos, mae’r busnesau ar y promenâd yn ein hadnabod (rydym fel arfer yn dod ynghyd am goffi yn y Caffi ar y Traeth ar ôl codi sbwriel), ac fe wnaethant ein helpu yn syth. Daeth pump o’r busnesau ar y promenâd at ei gilydd gan dalu am gost ein hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus, er mwyn ein bod yn gallu parhau i fod yn gysylltiedig â Cadwch Gymru’n Daclus.
Her arall y daethom ar ei thraws oedd ein bod wedi cyrraedd y pwynt lle’r oedd yn mynd yn anodd parhau i lusgo’r offer o amgylch bob wythnos! Roedd ei gario yn ôl ac ymlaen mewn ceir amrywiol yn dechrau mynd yn anodd, ond rhoddodd ein swyddog prosiect lleol gynhwysydd storio awyr agored cadarn i ni. Unwaith eto, roedd y busnesau lleol wrth law i’n helpu a rhoi caniatâd i ni ei roi y tu allan i’r busnes lle’r ydym i gyd yn cyfarfod bob wythnos. Mae cael popeth yn hygyrch ac yn drefnus yn gwneud pethau gymaint yn haws!
Pa rôl mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi ei chwarae yn eich llwyddiant?
Sefydlwyd tudalen Pensarn Pickers ar Facebook yn 2023, sydd wedi ein helpu i ddenu aelodau newydd, yn ogystal â gwirfoddolwyr sydd eisiau codi sbwriel bob nawr ac yn y man. Mae’n lle gwych i ddangos y gwaith rhagorol y mae’r gwirfoddolwyr yn ei wneud bob wythnos – yn ogystal â thynnu sylw at yr holl sbwriel sy’n cael ei adael ar ein traeth hardd. Dim ond 130 o ddilynwyr sydd gennym ar hyn o bryd, ond mae’n cynyddu drwy’r amser. Mae’n wych gweld ein negeseuon yn cael eu rhannu gyda’r gymuned ehangach ac rydym yn credu bod hyn wedi ein helpu i ddenu demograffig ehangach o wirfoddolwyr.
I ganfod mwy am Pensarn Pickers ewch i dudalen Facebook