Saif y Castell mewn lleoliad anhygoel yn edrych dros Lyn y Felin sy’n mesur 23 cyfer, ac mae’n un o’r cestyll mwyaf amrywiol ei bensaernïaeth yng Nghymru; yn gaer Normanaidd o’r ochr orllewinol, ac eto’n blasty Elisabethaidd gwych o’r gogledd.
Ar y safle hefyd ceir yr unig Felin Heli sydd wedi’i hadfer yng Nghymru, croes Geltaidd o’r 11eg ganrif, pont ganoloesol a llecyn picnic, i gyd wedi’u cysylltu gan lwybr cylch sy’n filltir o hyd, addas ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn, gyda golygfeydd godidog dros Lyn y Felin.
Beth ddenodd chi yn y lle cyntaf at y Goriad Gwyrdd?
Fel rhan o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, rydym yn ymdrechu’n ddyddiol i leihau ein heffaith ni ar yr amgylchedd ac i hyrwyddo twristiaeth gynaladwy. Mae gwobr y Goriad Gwyrdd yn rhoi cyfle i ni ddangos ein addewid ac i annog atyniadau eraill yn lleol i ystyried eu cynaliadwyedd.
Dywedwch wrthym am unrhyw newidiadau a wnaethoch chi i gyflawni meini prawf y Goriad Gwyrdd?
Roeddem eisioes yn gwneud llawer o waith i leihau ein heffaith amgylcheddol, felly er nad ydym wedi gorfod gwneud gormod o addasiadau i gyflawni’r meini prawf, rydym yn dawel ein meddwl ein bod yn gwneud y dewisiadau cywir.
Beth yn eich barn chi yw’r manteision o fod wedi cael eich achredu gyda gwobr y Goriad Gwyrdd?
Wrth fod yn rhan o label eco achrededig a chydnabyddedig – mae gan ein ymwelwyr y gwybodaeth ein bod ni’n ymdrechu i wneud ein gorau i fod yn eco-gyfeillgar.
Sut ydych chi’n cynnwys elfen addysg y wobr yn eich busnes?
Rydym yn arddangos gwobr y Goriad Gwyrdd ac yn cynnwys y logo achredu ar ein gwefan. Does gennym ni ddim lle i lenyddiaeth ychwanegol ar y safle. Fodd bynnag, mae rhan fawr o’r hyn rydyn ni’n ei wneud yng Nghaeriw i’w wneud ag addysg, gan gynnwys meysydd sef gwarchodaeth, bioamrywiaeth yn ogystal a’r ffordd y mae hanes yn ein dysgu am gynaliadwyedd – mae egwyddorion y Goriad Gwyrdd yn bwydo i mewn i hyn.
Beth yw’r agwedd fwyaf heriol i’r wobr yn eich barn chi?
Nid yw bob un o’r meini prawf yn berthnasol i’n sector ni, a gall ateb y cwestiynau hynny a chyflenwi’r dystiolaeth sy’n ofynnol fod yn heriol.
Mae’r Goriad Gwyrdd wedi rhoi’r gallu i ni ddangos ein ymrwymiad i dwristiaeth gynaliadwy ag i leihau ein heffaith amgylcheddol. Er ein bod eisioes yn gweithio’n galed ’i wneud y peth iawm’, mae dilyn y meini prawf wedi canolbwyntio ein hymdrechion ac wedi rhoi ffranwaith i ni weithio ato. Daisy Hughes, Castell a Melin Lanw Caeriw
Daisy Hughes, Castell a Melin Lanw Caeriw