Cyflwyniad
Rydym bob amser yn hapus i dderbyn canmoliaeth a dymuniadau da gan y rheiny yr ydym yn gweithio gyda nhw a chan aelodau o’r cyhoedd. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod o bryd i’w gilydd y gall fod adegau hefyd lle nad yw ein gwaith bob amser yn bodloni disgwyliadau.
Yn y sefyllfaoedd hyn, rydym yn ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ac yn effeithlon ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych.
Cysylltu â ni
Os nad ydych yn hapus gydag agwedd ar ein gwaith, gallwch gysylltu â’r Adran Gyfathrebu yn y ffyrdd canlynol, trwy
Ysgrifennu atom yn: Sbarc, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ Ebostio: info@keepwalestidy.cymru Llenwi ein ffurflen ar-lein “Cysylltu â Ni” Defnyddio ein cyfryngau cymdeithasol e.e. Facebook a Twitter Yn yr un modd, gallwch gysylltu â ni uchod i rannu eich bodlonrwydd a chefnogi ein gwaith.
Ymdrin â chwyn
Wrth dderbyn cwyn, byddwn yn ymdrin â’r mater mor gyflym â phosibl, gyda’r nod o gydnabod ac ymateb yn ysgrifenedig i’ch cwyn o fewn deg diwrnod gwaith.
Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb y tro cyntaf, gallwch gyfeirio’n ôl at Gadwch Gymru’n Daclus yn gofyn i ni adolygu’r mater. Cynhelir adolygiad gan aelod o’r Uwch Dîm Rheoli fydd yn ymchwilio i’r mater ymhellach a’ch hysbysu ynghylch y canlyniad. Os byddwch yn dal yn anfodlon â’n hymateb, gallwch olrhain y mater gyda’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Yn y pen draw, os byddwch yn dal yn anfodlon gyda’n hymateb yn dilyn y ddau atgyfeiriad hwn, gallwch fynd â’r mater i’r Comisiwn Elusennau neu os yw’r gŵyn yn ymwneud â chodi arian, y Rheoleiddiwr Codi Arian (mae angen i chi wneud hyn o fewn dau fis o’n hymateb i chi). Mae mwy o fanylion am y broses ar gael trwy fynd i www.charitycommission.gov.uk. neu www.fundraisingregulator.org.uk.
Cofnodion o gŵynion
Byddwn yn cadw cofnod o gŵynion i gael eu hadolygu gan bartïon allanol lle bo angen. Bydd y cofnod yn cynnwys manylion y gŵyn, y dyddiad y’i derbyniwyd, manylion ein hymchwiliad a chopi o’r holl gyfathrebu yn ymwneud â’r mater.
Caiff y cofnodion eu cadw am isafswm o 24 mis o’r dyddiad y gwnaed y gŵyn ac eithrio pan fydd cyfraith diogelu data yn gofyn i’r wybodaeth gael ei rhoi y tu hwnt i ddefnydd cyn hyn.
Unioni pethau
Os ydym wedi bod yn anghywir neu os yw ein gwasanaethau wedi syrthio islaw’r safon ddisgwyliedig, ein nod fydd unioni pethau cyn gynted â phosibl.
Cyfrinachedd
Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, gwneir pob ymdrech i sicrhau eich bod chi a Chadwch Gymru’n Daclus yn cadw cyfrinachedd. Fodd bynnag, gall fod yr amgylchiadau sydd wedi arwain at eich cwyn yn ei wneud yn amhosibl gwneud hynny; gyda phob cwyn yn cael ei barnu yn ôl ei haeddiant ei hun. Os digwydd hyn, byddwn yn eich hysbysu yn unol â hynny.