A A A

Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, mae gennym weledigaeth am Gymru hardd y gall pawb ei mwynhau. Rydym eisiau sicrhau bod y weledigaeth hon yn cael ei gwireddu’n llawn trwy greu sefydliad mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol.

Er bod gennym werthoedd cryf wedi eu sefydlu sydd yn rhoi sylfaen gadarn i weithio arni, rydym yn cydnabod nad yw ein sefydliad a’r trydydd sector amgylcheddol ehangach mor gynrychioliadol ag y gallai fod.

Ein cynnydd hyd yn hyn

Cam pwysig oedd cynnal arolwg mewnol i nodi pwy mae ein tîm o staff a’n Bwrdd yn ei gynnwys. Dangosodd ein bod yn perfformio’n dda mewn rhai meysydd, yn arbennig o ran oed a rhywedd, ond roedd yn amlwg bod gennym ffordd bell i fynd i sicrhau ein bod yn adlewyrchu poblogaeth Cymru a’r cymunedau yr ydym yn gweithio gyda nhw yn gywir.

Mae canlyniadau’r arolwg wedi helpu i lywio ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). Er bod y cynllun hwn wedi cael ei ddatblygu gan grŵp gweithredol o aelodau staff ac ymddiriedolwyr, rydym i gyd yn berchen arno.

Hyd yn hyn, rydym wedi cymryd y camau canlynol:

  • Rydym wedi annog staff i ddefnyddio rhagenwau rhywedd yn eu llofnodion ebost, eu proffiliau ar-lein a chardiau adnabod. Ein gobaith yw bod hyn yn arwydd clir ein bod yn parchu hunaniaeth rhywedd pawb yr ydym yn gweithio gyda nhw.
  • Rydym wedi sefydlu bwrdd ieuenctid, gan roi cyfle i bobl ifanc ar draws Cymru i lywio ein gwaith.
  • Rydym wedi rhoi hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant i bob aelod o staff. Wedi ei gyflwyno gan ymgynghorydd allanol, rhoddodd y sesiwn hon gyfle i bawb wrando, dysgu a chael trafodaeth agored am y ffordd y gallwn greu newid.
  • Rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn ysgrifennu ein swydd-ddisgrifiadau ac rydym bellach yn derbyn CVs – y camau cyntaf tuag at wneud ein prosesau recriwtio yn decach ac yn fwy cynhwysol.
  • Rydym wedi ailddylunio prosiectau i fod mor gynhwysol â phosibl. Gyda Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, er enghraifft, rydym wedi dileu rhwystrau posibl sydd yn atal grwpiau rhag cymryd rhan, gan sicrhau nad oes angen i unrhyw un boeni am eu profiad, eu sgiliau na’u gallu corfforol.
  • Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Gymdeithas Alzheimer gyda’r nod o ddod yn sefydliad sy’n Deall Dementia, er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig gofod croesawgar a hygyrch i bobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia.
  • Rydym wedi cyflwyno sesiwn EDI yn ein cyfarfodydd staff chwarterol er mwyn diweddaru’r tîm cyfan am ein cynnydd a’r camau nesaf.
  • Rydym wedi gofyn i bob aelod o’r staff a’r ymddiriedolwyr i fabwysiadu amcan EDI, gan gydnabod bod gennym i gyd rôl i’w chwarae yn sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael eu trin yn deg a heb ragfarn.
  • Nid ydym bellach yn ei gwneud yn ofynnol i staff gymryd gwyliau gorfodol dros gyfnod y Nadolig; mae ein tîm yn cael dewis pryd maen nhw’n defnyddio’r gyfran hwn o’u gwyliau.
  • Rydyn ni’n gyflogwr sydd wedi ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd, sy’n ein helpu i recriwtio, cadw a gwneud gwahaniaeth i bobl anabl.
  • Rydyn ni wedi cyflwyno cyfres o sesiynau hyfforddi ar-lein rheolaidd ar gyfer ein staff, gan eu galluogi i ddysgu gan arbenigwyr a’i gilydd. Mae’r sesiynau hyn yn archwilio amrywiaeth o bynciau, o ddementia ac ymwybyddiaeth awtistiaeth i gynghreiriaeth LHDTC+ a’r model cymdeithasol o anabledd.

Beth sydd nesaf?

Rydym yn gwybod bod gennym fwy i’w wneud.

Er mwyn mynd i’r afael yn wirioneddol â materion tangynrychiolaeth, mae’n rhaid i ni sefydlu EDI ym mhopeth yr ydym yn ei wneud. Mae ein Cynllun Gweithredu EDI yn amlinellu’r blaenoriaethau canlynol:

  • Byddwn yn datblygu canllaw i gyfathrebu’n effeithiol er mwyn sicrhau bod pawb yr ydym yn gweithio gyda nhw yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn a’u cynnwys.
  • Byddwn yn parhau i wella ein prosesau recriwtio gyda’r nod o ddenu staff ac ymddiriedolwyr mwy amrywiol.
  • Byddwn yn dylunio prosiectau law y llaw â’r cymunedau yr ydym yn ceisio eu gwasanaethu, yn cynnwys menter sbwriel a gwastraff newydd.
  • Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau eraill yn y trydydd sector amgylcheddol i ddeall a mynd i’r afael â rhwystrau – gwirioneddol neu ymddangosiadol – yn well – ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
  • Byddwn yn dod yn sefydliad gwrth-hiliaeth yn unol â Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, gan wneud profiad bywyd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Byddwn yn monitro effeithiolrwydd ein holl weithredoedd ac yn adolygu’r Cynllun Gweithredu yn rheolaidd.

(Diweddarwyd ddiwethaf Tachwedd 2024)

Er ein bod yn ymdrechu i gyflwyno arfer gorau ym mhopeth yr ydym yn ei wneud, rydym yn ymwybodol nad ydym yn cael pethau’n iawn bob amser. Rydym yn dysgu ac yn gwella’n barhaus ac yn croesawu adborth ar faterion EDI. Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw bryderon.