Rydym eisiau grymuso pobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ar faterion amgylcheddol.
Dyma pam yr ydym yn sefydlu ein Bwrdd Ieuenctid cyntaf.
Mae ymgeisiadau ar gyfer y Bwrdd Ieuentid nawr ar gau.
Bydd y Bwrdd Ieuenctid yn cyfarfod bob tri mis (weithiau ar-lein, weithiau mewn person).
Bydd y grŵp yn gweithio’n agos gyda’n Bwrdd Ymddiriedolwyr ac yn cael cefnogaeth aelod o staff Cadwch Gymru’n Daclus. Byddant wrth law i helpu gyda’r pethau o ddydd i ddydd, yn cynnwys trefnu cyfarfodydd ac ysgrifennu nodiadau.
Mae dod yn aelod o’n Bwrdd Ieuenctid yn rôl wirfoddol, er y byddwn yn talu eich costau teithio. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gennych yr holl offer TG fydd ei angen arnoch i gymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithiol.
Bydd y cyfarfodydd yn fan diogel a bydd cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi yn yr un ffordd. Hoffem i chi fod yn onest am y ffordd yr ydych yn credu y dylai Cadwch Gymru’n Daclus fod yn gofalu am yr amgylchedd.
Mae gymaint o gyfleoedd gwych i aelodau’r Bwrdd Ieuenctid.
Yn bwysicaf oll, gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol! Gall aelodau ddod ynghyd â phobl o’r un anian i leisio’u safbwynt ar faterion amgylcheddol ac i gyflwyno syniadau newydd.
Bydd y Bwrdd Ieuenctid yn cael ei gefnogi gan aelodau o Cadwch Gymru’n Daclus i ddatblygu sgiliau newydd a chysylltu ag arweinwyr amgylcheddol ar ein tîm rheoli a Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Byddwn yn gwahodd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfarfod â ni ym mis Hydref, er mwyn gallu dysgu mwy amdanoch chi a’ch syniadau.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn sefydliad cyfle cyfartal. Rydym yn dathlu amrywiaeth ac wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob ardal, ethnigrwydd a chrefydd. Pwy bynnag ydych ac o ble bynnag yr ydych yn dod – byddwn yn eich croesawu fel aelod o’n tîm.
Polisi Preifatrwydd Recriwtio Cadwch Gymru’n Daclus
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen gofrestredig (Rhif Elusen 4011164) ac yn gwmni cyfyngedig preifat sydd yn gyfyngedig trwy warant (Rhif Cwmni 1082058), swyddfa gofrestredig, 33-35 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HB. Rhif Ffôn 02920256767, Ebost info@keepwalestidy.cymru. Bydd yr holl ddata personol a roddir i ni yn cael ei gadw’n ddiogel ar gronfa ddata wedi ei diogelu gan gyfrinair a’u cadw hyd at ddiwedd y cyfnod recriwtio. Bydd mynediad at y data’n cael ei gyfyngu i’r aelodau hynny o staff Cadwch Gymru’n Daclus sydd yn gysylltiedig â recriwtio staff a gwirfoddolwyr. Caiff y data ei ddefnyddio at ddibenion recriwtio yn unig ac ni chaiff ei rannu’n fewnol na chydag unrhyw barti allanol.
Bydd ffurflenni’r holl ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael eu dileu a bydd y copïau caled yn cael eu rhwygo’n fân neu eu gwaredu trwy wasanaeth gwastraff cyfrinachol o fewn 6 mis o ddiwedd y cyfnod recriwtio. Bydd manylion personol yn cael eu cadw’n ddiogel hefyd ar Gronfa Ddata A.D. yr elusen gyda mynediad cyfyngedig gan aelodau cyfrifol o’r staff.
Y person sy’n gyfrifol am ddata yn Cadwch Gymru’n Daclus yw Philippa McGrath, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes. Gellir cysylltu â hi yn philippa.mcgrath@keepwalestidy.cymru. Yn unol â’ch hawliau, gallwch gysylltu â hi gydag unrhyw ymholiadau yn cynnwys dileu, unioni, cyfyngu neu gael mynediad at eich data.