Mae nawdd gan fusnesau lleol a chorfforaethol yn rhan allweddol o’r cyllid a ddefnyddiwn i’n galluogi i barhau i wneud ein gwaith elusennol ar draws amgylchedd Cymru.
Ond rydym yn gwerthfawrogi ein noddwyr am lawer mwy na’u cyllid holl bwysig – maent yn rhoi gwirfoddolwyr i ni sy’n dod allan ym mhob tywydd i gefnogi ein gwaith ac maent yn rhannu ein hymgyrchoedd ar gyfer amgylchedd Cymreig gwell.
Rydym yn ffodus i gael nifer o noddwyr anhygoel … ond rydyn ni bob amser yn chwilio am fwy!
Os yw ein gwaith yn bwysig i chi a hoffech helpu i gefnogi’r gwaith a wnawn, anfonwch e-bost atom.
Mae nifer o ffyrdd y gall eich cwmni gefnogi Cadwch Gymru’n Daclus.
Rydym yn cynig nifer o gyfleoedd nawdd gwych i fusnesau a hoffai fod yn rhan o'n gwaith.
Byddem yn hapus i gynnig cymorth a chyngor os ydych am greu digwyddiad codi arian – beth am gasglu sbwriel noddedig?
Ac wrth gwrs rydym bob amser yn hapus i dderbyn rhoddion o unrhyw faint i brynu offer, planhigion ac i redeg ein prosiectau amgylcheddol.