A A A

Nawdd gyda buddion go iawn

Bydd noddi prosiect Cadwch Gymru’n Daclus nid yn unig yn dod â manteision i amgylchedd ehangach Cymru, mae hefyd yn rhywbeth sy’n dda i chi a’ch tîm.

Mae manteision pellgyrhaeddol sy'n cynnwys:

  • Cymdeithas gydag elusen sydd â dros 50 mlynedd o weithio wrth galon y gymuned er budd yr amgylchedd ledled Cymru.
  • Cyfle i'ch staff fwynhau manteision corfforol a meddyliol cymryd rhan weithredol yn y gwaith a wnawn i greu mannau gwyrdd a chadw ein tirweddau'n rhydd rhag gwastraff a sbwriel.
  • Cefnogi gwaith y profwyd ei fod o fudd i iechyd a lles unigolion a chymunedau mewn ffordd gadarnhaol.
  • Creu naratif cadarnhaol ychwanegol i'w rannu gyda'ch cwsmeriaid a'ch cefnogwyr.

A fel nodyn atgoffa, byddwn yn:

  • Arddangos eich logo ar ein tudalen noddwyr, gyda dolen i waith eich sefydliad i gefnogi'r amgylchedd.
  • Eich enwi fel partner ar bob llenyddiaeth o amgylch eich prosiect noddedig.
  • Dathlu'r nawdd a'n partneriaeth drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a digidol a datganiadau cysylltiedig i'r cyfryngau yn ystod y gweithgaredd.
  • Gwneud yn siŵr bod gennych aelod penodol o dîm Cadwch Gymru'n Daclus i reoli eich nawdd ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy'n digwydd

Pecynnau noddi

Dyma enghraifft o’r math o brosiect y gallwch ei noddi.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu drafod pecyn mwy pwrpasol, cysylltwch â jo.golley@keepwalestidy.cymru