Mae ein gwirfoddolwyr yn anhygoel, bob un o’r 25,000 ohonynt! P’un ai bod gennych ddiwrnod neu ychydig funudau i’w sbario, gallwch gymryd rhan yn ein gwaith, cyfarfod â phobl newydd a helpu i wella eich cymuned.
Rydym yn cefnogi gweithredu cymunedol trwy Caru Cymru – ein mudiad newydd i ddileu sbwriel a gwastraff.
O drefnu un digwyddiad glanhau i sefydlu grŵp cymunedol, mae rhywbeth ar gael i bawb.
Edrychwch ar ein calendr o ddigwyddiadau i ddod o hyd i weithgaredd yn eich ardal chi.
Awydd glanhau eich ardal leol ond heb yr offer iawn? Ewch i Hybiau Codi Sbwriel Caru Cymru a’i fenthyg AM DDIM!
Rydym eisiau cysylltu gwirfoddolwyr brwdfrydig â grwpiau cymunedol yn eu hardal nhw
Eisiau cynnal digwyddiadau glanhau rheolaidd neu ofalu am fan gwyrdd gyda’ch ffrindiau neu gymdogion? Gallwn ni helpu!
Rhowch hwb i natur a’ch cymuned gyda Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.