A A A

Beth yw’r Bwrdd Ieuenctid?

Fel rhan o’n huchelgais i rymuso pobl ifanc, un o’n pedair thema allweddol yn strategaeth Ein Cymru Hardd ar gyfer 2022-2030, fe wnaethom sylweddoli bod angen llwyfan arnom ar gyfer pobl ifanc 16–25 oed i leisio eu barn am faterion amgylcheddol, herio ein tybiaethau a chyflwyno syniadau ffres.

Mae’r Bwrdd Ieuenctid yn gweithredu o dan ddatganiad cenhadaeth wedi ei diffinio gan ei haelodau: “Grymuso arweinwyr ifanc i greu Cymru harddach trwy weithredu cadarn a lleisiau amrywiol.”

Sut mae’n gweithio?

Mae’r Bwrdd Ieuenctid yn cyfarfod bob tri mis (weithiau ar-lein, weithiau mewn person). Mae’r cyfarfodydd hyn yn fannau diogel lle mae cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi yn gyfartal.

Gyda’i gilydd, mae aelodau’n nodi’r materion y maent eisiau mynd i’r afael â nhw, yn datblygu ac yn monitro eu cynllun gweithredu eu hunain.

Anogir aelodau i fod yn onest am y ffordd y maent yn credu y dylai Cadwch Gymru’n Daclus fod yn gofalu ar ôl yr amgylchedd.

Mae’r grŵp yn gweithio’n agos gyda’n Bwrdd Ymddiriedolwyr ac fe’i cefnogir gan aelod o staff Cadwch Gymru’n Daclus. Mae’r aelod o staff hwn wrth law i helpu gyda’r holl bethau arferol, yn cynnwys trefnu cyfarfodydd ac ysgrifennu nodiadau.

Diolch i bawb a ddangosodd ddiddordeb yn ymuno â’r Bwrdd Ieuenctid. Mae’r ceisiadau bellach wedi cau.

Cadwch lygad ar y dudalen hon i weld diweddariadau gan y Bwrdd Ieuenctid cyn bo hir.

Os hoffech ganfod mwy am recriwtio i’r Bwrdd Ieuenctid, neu am unrhyw beth arall, cysylltwch ag info@keepwalestidy.cymru.