A A A

Cert Sbwriel Gymunedol Handi Cart Duo

£176.48 inc. Vat

Mae eich Handi Cart Duo NEWYDD yn helpu i wahanu sbwriel – sydd yn newid y ffordd yr ydym yn rheoli ac yn casglu sbwriel, gan ddatblygu arferion gwaith gwell.

Mae ein Handi Cart Duo arloesol yn ysgafn iawn, yn fach ac yn blygadwy, sydd yn gwneud ailgylchu ‘wrth fynd’ yn hawdd iawn.  Mae’r ddolen ddeuol yn ei wneud yn haws i wahanu sbwriel wrth ei godi, mae’n dyblu’r sbwriel y gellir ei gasglu er mwyn i chi allu gwneud mwy, am hwy, yn fwy diogel.

Gallwch greu eich ffrwd wastraff ddwy ffordd eich hun o ddeunydd ailgylchu sych a sbwriel cyffredinol.  Mae ein cert eco-gyfeillgar wedi ei chynhyrchu o 35% o ddeunydd wedi ei ailgylchu – sydd yn croesawu cynaliadwyedd o ran y ffordd yr ydym yn gwneud ein cynnyrch.

Nodweddion yr Handi Cart:

  • Dyluniad plygadwy, bach; 38cm x 58cm x 54cm
  • Agorwr sach deuol i wahanu sbwriel
  • Olwynion gwrth-dyllu ar gyfer pob math o dir
  • Gwnaed o 35% o ddeunydd wedi ei ailgylchu
  • System gau ddiogel – sicrhau dwy sach mewn un cylchyn yn gyflym ac yn hawdd
  • Casglu a didoli hyd at 180 litr
  • Ffrâm ysgafn, 4kg
Yn ôl i’r siop

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Cert Sbwriel Gymunedol Handi Cart Duo”

Your email address will not be published. Required fields are marked *