A A A

Gohebyddion Ifanc i'r Amgylchedd

Mae’r ffordd yr ydym yn defnyddio adnoddau’r byd yn un o’r heriau mwyaf y mae’r ddynoliaeth yn ei hwynebu ac mae gan unrhyw un sy’n ymchwilio i faterion gwyrdd ac yn adrodd arnynt y potensial i wneud gwahaniaeth enfawr.

Mae Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd (YRE) yn rhwydwaith o ieuenctid rhyngwladol sydd yn gysylltiedig ag addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy.  Nod YRE yw ymgysylltu ieuenctid yn y gwaith o ddatrys materion amgylcheddol.

Amdano YRE

Gwahoddwyd Gohebwyr Ifanc rhwng 11 a 25 oed yn flynyddol i ymchwilio i broblemau a materion amgylcheddol ac i gynnig atebion drwy adrodd ymchwiliol cyhoeddedig, newyddiaduraeth ffotograffig a fideo.  Mae’r gystadleuaeth YRE hefyd wedi galluogi cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau ac ehangu eu gwybodaeth – yn ogystal â meithrin dealltwriaeth ddyfnach o ddatblygu cynaliadwy, mae’r rhaglen yn addysgu ac yn gwella sgiliau cyfathrebu a dinasyddiaeth, menter unigol, gwaith tîm, dadansoddi beirniadol, cyfrifoldeb cymdeithasol ac arweinyddiaeth.

Mae’r YRE wedi cynnwys ychydig o dan hanner miliwn o bobl ifanc ers iddo ddechrau, ac ar hyn o bryd mae’n cael ei adolygu i bobl ifanc y dyfodol gymryd rhan.  Edrychwn ymlaen at gyhoeddi’r camua nesaf yma.

Help ag adnoddau

Gallwn helpu gydag adnoddau, helpu i drefnu gweithgareddau ymarferol sydd yn codi ymwybyddiaeth a rhoi cyngor ar greu cais llwyddiannus.

Dysgu mwy

YRE Adref

Derbyn her