A A A

Beth rydyn ni'n ei wneud

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Rydym yn helpu i osod safonau uchel ar gyfer parciau, traethau, marinas a thwristiaeth yng Nghymru trwy ein hystod o wobrau rhyngwladol yn ogystal â bod yn arbenigwyr polisi ac ymchwil yn ein maes.

Ein gweledigaeth fel elusen yw am Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau. Mae Cymru Hardd, ein strategaeth ar gyfer 2022-2030, yn amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol i gyflawni’r weledigaeth hon, gan weithio’n agos gyda gwirfoddolwyr, y llywodraeth, sefydliadau corfforaethol a lleol. Darllen ein strategaeth.

Cysylltu er mwyn gwneud gwahaniaeth
Cadwraeth
Forest in sunshine

Rydym yn helpu adferiad natur trwy ddiogelu coedwrych, plannu coetir cynhenid, dwys, a chreu gerddi newydd, bioamrywiol.

Caru Cymru
caru cymru to eradicate waste

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda phob awdurdod lleol ar draws Cymru ar ein menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.

Gwobrau
Blue Flag at Llangranog

Rydym yn helpu i osod safonau uchel ar gyfer mannau gwyrdd, traethau, marinas a thwristiaeth yng Nghymru trwy ein hystod o wobrau rhyngwladol.

Addysg
Happy young person

Grymuso pobl ifanc i ysgogi newid amgylcheddol. Mae’n rhaid cymryd camau mentrus er mwyn creu dyfodol mwy cynaliadwy a chydnerth.