Mae un mewn chwe rhywogaeth yng Nghymru o dan fygythiad. Mae’n ystadegyn arswydus ond os byddwn yn cydweithio ac yn gweithredu ar frys, gallwn wrthdroi’r dirywiad hwn.
Rydym yn helpu adferiad natur trwy ddiogelu coedwrych, plannu coetir cynhenid dwys, a sefydlu gerddi newydd bioamrywiol yn ein hymgyrch i greu ac adfer mannau gwyrdd.
Cliciwch ar y blychau isod i weld sut gallwch gymryd rhan a darllenwch ein strategaeth newydd, Cymru Hardd, i ganfod sut rydym yn bwriadu mynd i’r afael â’r mater hwn rhwng nawr a 2030. Darllenwch ein strategaeth.
Wrth gwrs, mae mannau gwyrdd hygyrch yn rhoi hafan bwysig i bobl yn ogystal â bywyd gwyllt. Rydym eisiau rhoi hwb i les ein cymunedau trwy gynnwys cymaint o wirfoddolwyr â phosibl yn ein prosiectau cadwraeth.
Rydym yn falch o fod wedi plannu’r Coedwigoedd Bychain cyntaf yng Nghymru!
Mae natur dan fygythiad ac mae'n bryd gweithredu.
Mae'n syml - rydym eisiau gwarchod ein gwrychoedd a'u gwneud yn bwysig eto.
Nod Caru Cymru yw ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.
Addysg amgylcheddol nawr ac i’r dyfodol.
Codi'r safon ar gyfer mannau gwyrdd, traethau, marinas a thwristiaeth yng Nghymru.