A A A

Gwnewch gais nawr am becynnau gardd am ddim!

Ydych chi eisiau trawsnewid ardal sydd wedi ei hesgeuluso yn ardd hardd lle gall natur ffynnu? Ydych chi eisiau creu hyb cymunedol neu helpu pobl i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain? Dyma eich cyfle!  

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl, ac mae gennym ni gannoedd o becynnau gardd am ddim i’w rhoi i grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau cymunedol eraill.

Mae ein pecynnau rhagdaledig yn amrywio o brosiectau gardd bach i berllannau a thrawsnewidiadau ar raddfa fawr. Mae pob un yn cynnwys llawer o blanhigion cynhenid, offer, adnoddau a deunyddiau eraill. 

Byddwn yn trin yr archebion ac yn dosbarthu, a bydd ein swyddogion prosiect medrus yno i’ch helpu i osod eich gardd newydd. 

Cyn

Sut mae’n gweithio

Gall grwpiau a sefydliadau o bob math a maint wneud cais am Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Yn fwyaf diweddar mae hyn wedi cynnwys gwasanaethau brys, grwpiau ieuenctid, clybiau chwaraeon ac elusennau anabledd.

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau â chyfranogiad cymunedol, yn ogystal â’r rheiny mewn trefi, dinasoedd, ardaloedd difreintiedig a mannau heb lawer o fynediad i natur, os o gwbl. Rydym hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir ar draws Cymru.

Mae’n broses syml. Dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a llenwch ffurflen gais ar-lein gan sicrhau eich bod yn ateb yr holl gwestiynau.

Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais, mae gennym gydlynwyr rhanbarthol wrth law i fynd â chi drwy’r broses.

Ein gerddi Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Ers i ni lansio Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2020, mae dros 1,000 o fannau gwyrdd wedi cael eu creu, eu hadfer a’u gwella.

Cliciwch ar y pinnau isod i ganfod pwy sydd wedi bod yn gysylltiedig hyd yn hyn, edrychwch ar y lluniau a darllenwch am effaith Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

(Cliciwch ar yr eicon BIN ar y chwith i ehangu’r rhestr map. Mae dyfyniadau o safleoedd gorffenedig yn ymddangos yn yr iaith y cawsant eu darparu ynddi.)

Ariennir y fenter gan Lywodraeth Cymru, rhan o raglen ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar eich stepen drws’.

Mae angen cymorth gyda fy nghais. Beth ddylwn i ei wneud?

Cael anhawster yn dewis pecyn? Ddim yn siŵr sut i ateb cwestiwn ar y ffurflen gais? Mae ein tîm yn hapus i helpu. Anfonwch ebost atynt a byddant yn eich tywys drwy’r broses

Cysylltwch

Cysylltwch

Dilynwch ni ar Twitter, Instagram a Facebook ar gyfer holl newyddion diweddaraf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

#NôliNatur