A A A

Pecynnau Adlenwi ar gyfer gerddi presennol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Os ydych wedi derbyn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru’n Daclus ers i’r cynllun gael ei lansio yn 2020, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais. Bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb fer isod.

Mae’r Pecynnau Adlenwi yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys eitemau i wella eich man gwyrdd. Byddwch hefyd yn cael cyngor arbenigol gan un o’n swyddogion. Byddant yn eich helpu i osod eich eitemau adlenwi ac yn trafod ffyrdd eraill o sicrhau bod eich gardd yn ffynnu am flynyddoedd i ddod.

Gallwch ddewis o amrywiaeth o Becynnau Adlenwi:

  • Gofod tyfu ychwanegol gyda phlanhigion neu welyau ychwanegol a phlanhigion brodorol.
  • Seddi ychwanegol i greu mwy o leoedd i ymwelwyr orffwys a mwynhau eich gardd.
  • Gwella cynefinoedd – rhoi help llaw i natur gyda detholiad o flychau bywyd gwyllt.
  • Helpwch i ymestyn eich tymor tyfu gyda twnnel polythen.
  • Coed a bylbiau brodorol ychwanegol
  • Tywarchen blodau gwyllt i greu dôl fach.

Ddim yn siŵr a ydych yn gymwys i wneud cais?

Mae ein Tîm Natur wrth law i helpu.

Cysylltwch!