Mae ein pecynnau datblygu wedi cael eu dylunio i sefydliadau cymunedol sy’n dymuno creu prosiectau ar raddfa fwy. Gall unrhyw fath o sefydliad cymunedol ymgeisio – o fentrau cymdeithasol, grwpiau ieuenctid a ffydd, i elusennau a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Mae ein dau becyn datblygu wedi cael eu dylunio nid yn unig i roi hwb i fyd natur, ond i wella iechyd a llesiant pobl hefyd. Y nod yw dod â chymunedau ynghyd, annog pobl i wirfoddoli yn yr awyr agored, a chreu mannau gwyrdd i bawb eu mwynhau.
Mae’r holl becynnau’n cynnwys hyfforddiant, cyngor, a chymorth ymarferol i osod y mannau newydd, yn ogystal â’r offer, y deunyddiau a’r cyfarpar sydd eu hangen i ofalu amdanynt dros y tymor hir.
Bydd y ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr, a blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau mewn ardaloedd difreintiedig, trefol nad oes ganddynt fynediad at natur neu sydd â mynediad cyfyngedig at natur.
Mae’r holl becynnau gardd wedi cael eu dyrannu bellach. Am ymholiadau, cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru
Crëwch ardal hyfryd i bobl a bywyd gwyllt ffynnu ynddi.
Gallwch gynnwys u gymuned gyfan yn y gwaith o dyfu a chywain eu cynnyrch eu hunain.