Rydym yn cynnig pecynnau datblygu i greu, adfer a gwella lleoedd lleol ar gyfer natur.
Edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol am yr holl ddiweddariadau diweddaraf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y canllaw hwn, cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Mae pob pecyn wedi’i bennu ymlaen llaw felly byddwch yn derbyn POB eitem a restrir isod. Sicrhewch fod gennych ddigon o le i ffitio a storio’r holl eitemau angenrheidiol cyn i chi wneud cais.
Bydd eich swyddog prosiect lleol Cadwch Gymru’n Daclus yn cytuno ar gynllun gwaith ac amserlen gyflawni gyda chi, ond bydd angen i chi fod ar gael i dderbyn cyflenwadau o’r holl eitemau isod fel y cytunwyd.
Darllenwch ymlaen am ein gofynion hanfodol eraill.
Pwy all ymgeisio am becynnau?
Mae ein pecynnau datblygu wedi cael eu dylunio i sefydliadau sy’n dymuno creu prosiectau ar raddfa fwy ar dir sydd dan ‘berchnogaeth nid-er-elw’.
Mae ceisiadau ar agor i grwpiau cymunedol o bob maint, a sefydliadau eraill megis: y GIG, Cynghorau Tref neu Gymunedol, ysgolion cyhoeddus a meithrinfeydd, sefydliadau’r trydydd sector, sefydliadau crefyddol, mentrau cymdeithasol, prifysgolion, cymdeithasau tai, a gwasanaethau cyhoeddus ehangach Cymru megis Trafnidiaeth Cymru.
Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau sy’n bodloni holl ofynion y broses ymgeisio sydd wedi’u lleoli mewn lleoliadau trefol / lled-drefol, yn cynnwys aelodau difreintiedig /heb gynrychiolaeth ddigonol o’r gymuned, wedi’u lleoli mewn ardaloedd o amddifadedd uchel (wedi’u hadnabod gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) gydag ychydig neu ddim mynediad at natur.
A all ysgolion ymgeisio?
Os oes gan ysgol ddiddordeb yn creu ardal tyfu bwyd (pecyn ffrwythau a pherlysiau), yna gall unrhyw ysgol wneud cais. Am becynnau eraill (bywyd gwyllt/trefol), bydd angen i ysgolion ddangos nad oes ganddynt unrhyw fynediad at natur neu fannau gwyrdd (hy dim ond iard galed).
Pwy sydd ddim yn cael ymgeisio?
Noder, os ydych eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer eich gweithgaredd neu safle, mae’n bosib y bydd cyfyngiadau a allai effeithio ar eich cais. Cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur am ragor o wybodaeth. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru
Rydym wedi derbyn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus yn 2020-21y gorffennol, oes modd i ni ymgeisio eto?
Os ydych chi eisoes wedi llwyddo i osod pecyn dechreuol a nawr yn dymuno ehangu i becyn datblygu, gallwch chi wneud hynny.
Os derbynioch becyn datblygu, rydych yn bodloni holl feini prawf eleni a hoffech ymgeisio am becyn datblygu arall, yna gallwch wneud hynny; fodd bynnag byddem yn argymell i chi ymgeisio ar gyfer safle gwahanol. Noder er hynny bod blaenoriaeth yn debygol o gael ei rhoi i ymgeiswyr ydynt wedi ymgeisio o’r blaen.
Pwy ydych yn ystyried yn grŵp difreintiedig/grŵp wedi ymddieithrio?
Rydym yn croesawu ac yn cefnogi ceisiadau gan grwpiau difreintiedig/grwpiau wedi ymddieithrio a all fod heb gynrychiolaeth ddigonol neu gyda gallu cyfyngedig ar gyfer ymwneud â phrosiectau megis Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Bydd ceisiadau gan fudiadau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a mudiadau Anabl yn cael blaenoriaeth am gymorth (nid yw meini prawf eraill yn berthnasol i’r ymgeiswyr hyn).
Os nad oes gennych gyfranogwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol neu anabl, bydd eich cais yn dal i sgorio’n uchel os yw’n cynnwys cyfranogwyr o’r grwpiau canlynol:
Nid ydym yn grŵp difreintiedig, oes modd i ni ymgeisio o hyd?
Oes. Mae tri maen prawf hanfodol arall y mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn eu bodloni (gweler uchod). Fodd bynnag, rydym yn annog pob ymgeisydd i amlinellu sut maent wedi ymgynghori ag aelodau difreintiedig / heb gynrychiolaeth ddigonol o’u cymuned leol a sut y byddant yn ymwneud â’r prosiect wrth symud ymlaen, gan ein bod eisiau i’r prosiectau fod mor gynhwysol â phosib. Bydd cynnwys grwpiau difreintiedig yn cryfhau eich cais, gan roi cyfle uwch o lwyddiant i chi.
A oes angen i ni fod yn grŵp cyfansoddiadol i ymgeisio am becyn datblygu?
Oes. Gall swyddogion Cadwch Gymru’n Daclus eich cefnogi i ddod yn grŵp cyfansoddiadol. Mae gennym gyfansoddiadau templed ar gael, a gall ein tîm o swyddogion cymunedol eich helpu drwy’r broses syml. Ewch i’n tudalen tîm am fanylion ynglŷn â’ch swyddog prosiect lleol neu gofynnwch i’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur am gyngor.
Sut ydw i’n ymgeisio?
Cyflwynwch y ffurflen gais arlein ynghyd â’r dystiolaeth ategol angenrheidiol (gweler am restr o’r hyn sy’n ofynnol). Mae’r panel yn cyfarfod bob pythefnos. Gellir dod o hyd i’r holl fanylion ar dudalennau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Gellir lawrlwytho’r ffurflen gais pecyn dechreuol drwy glicio ar y ddolen isod. Atebwch bob cwestiwn gan gadw at y cyfrif geiriau sy’n cael ei argymell.
Gellir lawrlwytho’r ffurflen gais pecyn datblygu drwy glicio ar y ddolen isod. Atebwch bob cwestiwn gan gadw at y cyfrif geiriau sy’n cael ei argymell.
Sut mae ceisiadau yn cael eu hasesu a’u dewis?
Bydd yr holl geisiadau’n cael eu hasesu gan banel grantiau sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadwch Gymru’n Daclus, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Partneriaethau Natur Lleol ac arbenigwyr natur lleol.
Bydd ceisiadau a dderbynnir ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2021 yn cael eu hasesu ar ddechrau 2022.
Wrth ystyried ceisiadau, bydd y panel yn dyfarnu pecynnau ar draws ystod eang o leoliadau / partneriaid / sefydliadau fel y gellir treialu a monitro dulliau gwahanol.
Bydd y panel yn penderfynu a yw cais yn:
Os caiff yr holl flaenoriaethau uchod eu sgorio’n gyfartal, yna bydd y pecyn yn cael ei ddyfarnu i’r ymgeisydd yn yr ardal o amddifadedd cyffredinol uchaf yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Beth yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a lle gallaf ddysgu mwy?
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae wedi’i ddylunio i adnabod yr ardaloedd bach hynny lle mae’r crynodiadau uchaf o nifer o wahanol fathau o amddifadedd. Ar hyn o bryd mae MALlC yn cynnwys wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd.
Cliciwch yma am fap MALlC rhyngweithiol o ardaloedd o amddifadedd uchel. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i geisiadau yn y 30% mwyaf difreintiedig o unrhyw ystadegyn MALlC (e.e. corfforol, addysg, incwm).
Pryd byddwn yn clywed a ydym wedi bod yn llwyddiannus?
Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod dros e-bost dim mwy na phum diwrnod gwaith ar ôl cyfarfod panel grantiau.
Mae’r ffurflen gais yn cyfeirio at what3words. Beth yw what3words a pham mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio?
Gwefan ac ap yw what3words sydd wedi rhannu’r byd yn sgwariau tri metr a rhoi cyfuniad unigryw o dri gair i bob sgwâr. Dyma’r ffordd hawsaf o ddod o hyd i leoliadau penodol a’u rhannu. Mae mwy a mwy o gwmnïau danfon yn mynnu defnyddio what3words wrth gynllunio danfoniadau. Dyma’r ffordd orau o sicrhau bod eitemau yn cael eu danfon i’r union leoliad.
Ewch i www.what3words.com i nodi union leoliad eich gardd a’r lleoliad danfon.
Beth yw’r gost?
Dim byd
A fydd angen yswiriant arnom ni?
Bydd. Bydd angen i chi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y safle. Siaradwch â’r tirfeddiannwr i weld pa lefel yswiriant sydd ei hangen. Efallai fod yswiriant ar waith yn barod.
Os yw swyddog Cadwch Gymru’n Daclus yn bresennol yn ystod gweithgaredd, yna bydd cyfranogwyr wedi’u hyswirio ar gyfer damweiniau personol. Fodd bynnag, nid fydd yr yswiriant hwn ar waith os nad yw’r swyddog yn bresennol, felly bydd angen i chi gael yswiriant digonol ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol.
Ble gallwn ni gael yswiriant?
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rhedeg cynllun yswiriant grwpiau cymunedol er mwyn darparu yswiriant fforddiadwy i grwpiau cymunedol. Mae’n darparu yswiriant AM DDIM i grwpiau sydd wedi ffurfio a chyfansoddi yn ystod y 12 mis diwethaf. Felly, os ydych yn grŵp newydd gallech gael hyd at un flwyddyn o yswiriant am ddim. Noder, gall Cadwch Gymru’n Daclus eich helpu i ddod yn gyfansoddiadol (gweler yr adran grŵp cyfansoddiadol isod).
I grwpiau sydd wedi bodoli am fwy na 12 mis, mae’r pris yn dechrau ar £75 am gost yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a damwain bersonol y flwyddyn. Gellir sicrhau yswiriannau eraill hefyd e.e. defnyddio offer pŵer, offer a cholli offer. I gael mwy o wybodaeth am gostau a’r broses ymgeisio, ewch i’n tudalen yswiriant grŵp neu anfonwch e-bost at groupfunding@keepwalestidy.cymru
Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu costau yswiriant, cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Rydym yn aros am ganiatâd y tirfeddiannwr, oes modd i ni ymgeisio?
Nac oes, mae’n rhaid i chi gael tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatâd y tirfeddiannwr cyn cyflwyno eich cais. Ni fydd eich cais yn mynd i’r panel hyd nes y bydd wedi’i gwblhau’n llawn, yn cynnwys tystiolaeth o ganiatâd, lluniau, mapiau etc.
Rydym wedi bod yn gweithio ar ein safle ers blynyddoedd o dan gytundeb geiriol gan y tirfeddiannwr. A yw hyn yn ddigonol?
Nac ydy, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatâd y tirfeddiannwr.
Nid yw ein safle yn agor i’r cyhoedd am resymau diogelwch (e.e. gweithio gydag oedolion agored i niwed / plant ysgol) – a ydym yn dal i allu gwneud cais?
O bosib, ie. Mae’r cyfan yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol ac a ydych yn bodloni meini prawf eraill y cynllun. Cysylltwch â natur@cadwchgymrundaclus.cymru i ofyn am gyngor.
Unigolyn preifat sy’n berchen ar y tir, ond mae gennym brydles am ddeng mlynedd, oes modd i ni ymgeisio?
Oes, o bosib. E-bostiwch gopi o’ch prydles at nature@keepwalestidy.cymru fel y gallant wirio a ydych yn gymwys.
A oes ‘ffurflen’ tirfeddiannwr i’w llenwi?
Nid oes unrhyw ffurflen swyddogol i’w llenwi ond mae angen tystiolaeth arnom gan y tirfeddiannwr sydd yn dangos caniatâd i osod y safle a’i gynnal a’i gadw am bum mlynedd. Gallai hwn fod yn gytundeb ffurfiol yr ydych wedi’i lofnodi, prydles, trwydded neu e-bost gan y tirfeddiannwr sy’n rhoi caniatâd i’r gwaith fynd rhagddo ar y safle arfaethedig. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur am gyngor.
Nid wyf yn gwybod beth yw gwerth y safle yn nhermau cynefin / natur ac nid wyf yn gwybod pwy yw fy ecolegydd neu arbenigwr bywyd gwyllt lleol. A allwch chi helpu?
Gellir dod o hyd i restr o’r holl arweinwyr partneriaethau natur lleol yma. Cysylltwch â’r arweinydd ar gyfer eich awdurdod a gofynnwch iddynt roi cyngor ar eich safle ac a yw’n addas ar gyfer y pecyn rydych wedi’i ddewis. Mae’n rhaid i ni sicrhau na fydd y pecyn yn gwneud unrhyw niwed trwy niweidio/disodli’r cynefin presennol, felly mae’n hollbwysig eich bod yn cael cyngor ac yn rhoi cadarnhad yn eich cais.
Sut y byddwn yn gwybod bod y rhywogaethau o blanhigion a ddarperir yn addas ar gyfer ein hardal ni?
Mae cynnwys y pecyn wedi cael ei gymeradwyo gan dîm bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r gymysgedd o rywogaethau a ddewisir yn gyffredinol, yn frodorol ac yn addas ar gyfer ystod eang o gynefinoedd. Bydd cynrychiolwyr partneriaeth Natur Leol a arbenigwyr bywyd gwyllt yn mynychu pob panel grant i asesu ceisiadau.
Faint o le sydd ei angen arnom i osod holl eitemau’r pecyn?
Isafswm yr ardal sydd yn ofynnol ar gyfer pecyn datblygu bwyd yw 215m2 ac isafswm yr ardal ar gyfer pecyn datblygu bywyd gwyllt yw 240m2.
Mae’r pecynnau wedi eu dylunio yn bennaf ar gyfer mannau lle nad oes llawer o fynediad, os o gwbl, at natur. Felly, ni fydd rhai lleoliadau yn addas ee Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Lleol, ardaloedd cyfoethog eu rhywogaethau neu leoliadau sydd yn cynnwys rhywogaethau a warchodir. Gall fod ffyrdd eraill y gall partneriaid eraill gefnogi eich prosiect, felly cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru am gyngor.
Nid oes gennym gynllun cynnal a chadw nac unrhyw offer i gynnal y safle yn y dyfodol, oes modd i ni gael pecyn?
Mae cynnal a chadw’r safle yn barhaus yn un o’r meini prawf asesu hanfodol. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid yn eich helpu i baratoi cynllun cynnal a chadw a ynglŷn â sut mae gofalu am y safle yn yr hirdymor. Yn anffodus, os nad ydych yn cytuno i gynnal a chadw’r safle am bum mlynedd bydd eich cais yn aflwyddiannus.
Faint o wirfoddolwyr sydd eu hangen arnom i adeiladu a rheoli’r lleoedd natur?
Er y bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i osod eich gardd, fel yr ymgeisydd mae’n rhaid i chi ddarparu digon o wirfoddolwyr i sicrhau bod yr ardd yn cael ei gosod yn ddiogel. Rydym yn argymell deg gwirfoddolwr craidd o leiaf i adeiladu’r safle er po fwyaf o bobl leol sydd ynghlwm, y gorau. Bydd gwirfoddolwyr ychwanegol yn lledaenu’r llwyth gwaith a gallant ddarparu cefnogaeth foesol drwy ymgymryd â rolau megis lluniaeth, hyrwyddo’r safle drwy’r cyfryngau cymdeithasol a ffotograffiaeth. Rhaid i ymgeiswyr ymrwymo i 150 awr yn ystod 2022-23 i osod a rheoli’r ardd. Rhaid cynnal yr holl weithgareddau yn unol â chyfyngiadau COVID-19 Llywodraeth Cymru.
Os na allwch ddarparu cymorth gwirfoddol, mae’n annhebygol y caiff eich cais ei gymeradwyo. Bydd angen i chi ddarparu llythyrau o gefnogaeth gan unrhyw sefydliadau a fydd yn cymryd rhan. Mae angen i’r panel deimlo’n hyderus bod gennych graidd o wirfoddolwyr a fydd yn adeiladu’r ardd a diddordeb cymunedol ymroddedig i reoli’r safle yn y tymor hir.
Oes angen i chi fod yn heini? Pa mor gorfforol fydd y gwaith?
Bydd tasgau sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu. Bydd rhai gweithgareddau yn cynnwys gweithgareddau corfforol megis codi, plygu a phalu ond bydd llawer o dasgau mwy ysgafn hefyd megis plannu, chwynnu a dyfrio. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i weithgareddau addas i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan.
Oes angen unrhyw sgiliau neu brofiad arnom?
Nac oes, bydd swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i egluro gweithgareddau’r prosiect yn fanwl a darparu hyfforddiant a chefnogaeth anffurfiol. Byddant yn cynnal asesiad risg ac yn mynd drwy sesiwn friffio iechyd a diogelwch gyda’r holl gyfranogwyr. Bydd dogfennau canllaw a chyfarwyddiadau syml yn cael eu darparu i wirfoddolwyr eu dilyn.
Beth sydd angen i wirfoddolwyr ddod gyda nhw?
Byddwch yn gweithio ar safle’r tu allan, efallai heb ddim lloches ac rydych yn debygol o faeddu. Rydym yn gofyn i wirfoddolwyr wisgo dillad addas ar gyfer yr amodau tywydd a ragwelir ac esgidiau trwm. Gofynnir i wirfoddolwyr ddod â’u menig garddio neu weithio eu hunain. Bydd rhai offer yn cael eu darparu, ond yn dibynnu ar y niferoedd disgwyliedig a math o becyn, gall fod yn syniad da i wirfoddolwyr / grwpiau ddod â rhawiau, tryweli ychwanegol etc.
A all plant gymryd rhan?
Gallant, ond bydd angen i blant dan 16 oed gael eu goruchwylio gan oedolion.
A all y pecynnau gael eu rhannu dros fwy nag un safle?
Mae’r holl becynnau wedi cael eu dylunio i fynd ar un safle, felly dyna’r opsiwn dewisol a’r un fydd yn cael yr effaith orau.
Ar gyfer y pecynnau datblygu mwyaf, os nad oes gennych safle lle gall hynny weithio, gallai’r panel ystyried rhaniad, ond rydym yn awgrymu eich bod yn anfon e-bost eglurhaol gyda’ch cais yn esbonio’r rhesymeg/rheswm dros y cais a map clir o’r safle yn nodi’r ardaloedd a’r pellteroedd gwahanol.
Oes modd i ni newid cynnwys ein pecyn dewisol?
Nac oes. Mae’r pecynnau wedi’u cynllunio ymlaen llaw. Os oes angen eitemau gwahanol arnoch i ddatblygu eich man lleol ar gyfer byd natur, ewch i wefan y Loteri Genedlaethol i gael manylion am eu cronfa cyllid cyfalaf.
Ym mha ffordd fydd staff Cadwch Gymru’n Daclus ar gael i’n cefnogi i osod y pecynnau?
Bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu eich gardd newydd. Po gyntaf yr ydych yn archebu eich dyddiau gweithgaredd gyda’ch swyddog lleol, po fwyaf tebygol ydych o gael y dyddiadau sydd orau gennych, yn enwedig os ydych eisiau i’r gwaith ddigwydd ar y penwythnos. Byddwn hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar gyfer cynnal a chadw’r safle yn y dyfodol.
Oes modd i ni gadw’r offer ar ôl adeiladu’r prosiect?
Oes.
Beth fydd yn digwydd os byddwn yn cael pecyn, ond yn methu ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2023?
Rhaid cwblhau’r holl waith erbyn yr amser hwnnw. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac nad oes modd i chi gadw at yr amserlen hon mwyach, RHAID i chi roi gwybod i Cadwch Gymru’n Daclus cyn gynted â phosib er mwyn iddo allu dyrannu’r pecyn i rywun arall.
Rydym yn gobeithio gwneud cais ar gyfer cronfa gyfalaf Lle Lleol ar gyfer Natur newydd y Loteri Genedlaethol, a ydym hefyd yn gallu gwneud cais am becyn?
Nid ar gyfer yr un gweithgareddau, ond gallai fod gwaith arall nad yw pecynnau yn eu cynnwys a allai fod yn gymwys. Bydd angen i chi siarad â’r Loteri Genedlaethol i gadarnhau.
Os byddwn yn cael prosiect, a fydd Cadwch Gymru’n Daclus yn atgyweirio neu’n adnewyddu eitemau yn y pecyn sydd yn cael eu treulio, eu torri, eu niweidio neu eu dwyn ar ôl hynny?
Na, bydd y cyllid ond yn cynnwys yr eitemau a’r gwaith o’u gosod unwaith. Cydweithiwch gyda’n tîm i ystyried lleoliad eitemau wrth blannu eich gardd e.e. cysgodi gwrthrychau fel siediau / tai gwydr / delltweithiau rhag gwyntoedd cryf os yn bosibl.
Sut bydd fy mhecyn yn cael ei ddosbarthu?
Bydd eitemau lluosog, mawr iawn yn cael eu dosbarthu ar lori. Bydd y rhain yn cynnwys paledi a bagiau crynswth. Bydd eitemau llai yn cael eu dosbarthu drwy’r post neu gan gludydd. Mae’r lluniau isod wedi eu dylunio i roi syniad o faint rhai o’r eitemau fydd yn cael eu dosbarthu.