Trawsnewidiwch ardal sydd wedi ei hesgeuluso yn ardd fydd o fudd i natur a’ch cymuned.
Rydym eisiau eich helpu i greu neu adfer gofod ar gyfer natur, gardd yn llawn planhigion sydd yn dda i beillwyr ac amrywiaeth o gynefinoedd bywyd gwyllt eraill.
Ond mae gennym nod arall hefyd, sef gwella iechyd a llesiant pobl a chymunedau. Rydym am ddod â chymunedau ynghyd, annog mwy o bobl i wirfoddoli a’u cysylltu â byd natur.
Gallai cynnwys pecynnau newid
Isafswm yr ardal sydd yn angenrheidiol ar gyfer y pecyn hwn yw 240 metr sgwâr. Bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion a gyflenwir yn dibynnu ar y tymor ac argaeledd.
Ddim angen pwll neu sied ar y safle? Dewiswch ‘Gardd Bywyd Gwyllt Ysgafn’ wrth lenwi ein ffurflen gais. Bydd hyn yn cynnwys popeth a restrir uchod ac eithrio’r pwll a/neu’r sied.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd ei angen gan wirfoddolwyr. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth sydd angen i chi eu darparu cyn dechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o gynyddu eich siawns o fod yn llwyddiannus a chael gafael ar becyn Gardd Bywyd Gwyllt.