Gallwch gynnwys y gymuned gyfan yn y gwaith o dyfu a chynaeafu ffrwythau a llysiau.
Rydym yn awyddus i gefnogi cymunedau sy’n dymuno creu neu adfer mannau tyfu bwyd. Ein nod yw sefydlu prosiectau cynaliadwy a fydd yn elwa byd natur dros y tymor hir, ac yn galluogi pobl i gymryd perchnogaeth o dyfu a dosbarthu eu cynnyrch eu hunain.
Gallai cynnwys pecynnau newid
Rydym yn gwybod na fydd gennych brofiad o dyfu bwyd o bosib, felly byddwn yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu mannau tyfu, a’ch helpu i blannu eich cnydau newydd, i ofalu amdanynt a’u cynaeafu.
Mae angen man sy’n mesur 140 metr sgwâr o leiaf ar gyfer y pecyn hwn. Bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion sy’n cael eu darparu yn dibynnu ar y tymor a beth sydd ar gael.
Dyma brosiect ar raddfa fawr, felly cofiwch ddarllen ein cwestiynau cyffredin cyn ymgeisio.
Gallwch wneud cais nawr ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar-lein. Cofrestrwch eich manylion i sefydlu cyfrif. Yna mewngofnodwch, dewiswch eich pecyn dewisol, a chwblhewch y chwe cham. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb bob cwestiwn a lanlwythwch yr holl luniau a’r dystiolaeth ysgrifenedig sy’n ofynnol.
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gallu cwblhau eich cais mewn un ymgais – gallwch gadw’r hyn yr ydych wedi ei wneud a dychwelyd ato yn nes ymlaen. Neu, gallwch lenwi fersiwn Word o’r ffurflen o hyd a’i chyflwyno i’r un cyfeiriad ebost – lawrlwythwch y fersiwn Word yma.
Os byddwch yn cael unrhyw anhawster yn llenwi’r ffurflen, rydym yma i helpu. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.