Mae’r pecynnau dechreuol hyn yn agored i bob grŵp cymunedol a gwirfoddol – does dim hyd yn oed angen cyfrif banc na chyfansoddiad arnoch i wneud cais!
Mae dau becyn gardd benodol i ddewis o’u plith. Mae pob un yn cynnwys popeth fydd ei angen arnoch – planhigion brodorol, offer a deunyddiau; canllaw ar sut mae gosod yr ardd; ac ychydig o amser gan swyddog Cadwch Gymru’n Daclus i ddarparu rhywfaint o gyngor a chymorth ychwanegol.
Bydd y ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr.
Cliciwch ar y blychau isod i gael gwybod mwy ac i ymgeisio.
Beth am dyfu eich ffrwythau eich hun? Ffrwythau i'ch cymuned eu cywain a'u mwynhau
Creu lle i'ch cymuned ei fwynhau ac i fywyd gwyllt ffynnu
Mae ein pecynnau datblygu wedi cael eu dylunio i sefydliadau cymunedol sy’n dymuno creu prosiectau ar raddfa fwy.