Rydym yn cynnig pecynnau dechreuol i greu, adfer a gwella lleoedd lleol ar gyfer natur.
Edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol am yr holl ddiweddariadau diweddaraf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y canllaw hwn, cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Mae pob pecyn wedi’i gynllunio ymlaen llaw felly byddwch yn derbyn yr HOLL eitemau a restrir isod. Sicrhewch fod gennych ddigon o le i osod a storio’r holl eitemau angenrheidiol cyn i chi ymgeisio.
Bydd eich swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus lleol yn cytuno ar gynllun gwaith ac amserlen ddanfon gyda chi, ond bydd angen i chi fod ar gael i dderbyn danfoniadau o’r holl eitemau isod fel y cytunwyd.
Cyn ymgeisio, darllenwch y gofynion hanfodol canlynol i ymgeiswyr:
Pwy all ymgeisio am becynnau?
Mae ein pecynnau wedi cael eu dylunio i sefydliadau sy’n dymuno creu prosiectau gerddi natur ar dir sydd dan ‘berchnogaeth nid-er-elw’.
Mae ceisiadau ar agor i grwpiau cymunedol o bob maint, a sefydliadau eraill megis: y GIG, Cynghorau Tref neu Gymunedol, ysgolion cyhoeddus a meithrinfeydd, sefydliadau’r trydydd sector, sefydliadau crefyddol, mentrau cymdeithasol, prifysgolion, cymdeithasau tai, a gwasanaethau cyhoeddus ehangach Cymru megis Trafnidiaeth Cymru.
Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau sy’n bodloni holl ofynion y broses ymgeisio sydd wedi’u lleoli mewn lleoliadau trefol / lled-drefol, yn cynnwys aelodau difreintiedig o’r gymuned, wedi’u lleoli mewn ardaloedd o amddifadedd uchel (wedi’u hadnabod gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) gydag ychydig neu ddim mynediad at natur.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sydd yn cynnwys cyfranogwyr Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig a / neu anabl.
A all ysgolion ymgeisio?
Gall unrhyw ysgol wneud cais am becyn tyfu bwyd os nad oes ganddynt unrhyw gyfleusterau tyfu bwyd. Fodd bynnag, dim ond ysgolion heb unrhyw fynediad at natur neu ofod gwyrdd all wneud cais am becyn bywyd gwyllt.
Mae angen i ysgolion ddarparu lluniau a mapiau yn dangos eu gofod awyr agored.
Pwy sydd ddim yn cael ymgeisio?
Noder, os ydych eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer eich gweithgaredd neu safle, mae’n bosib y bydd cyfyngiadau a allai effeithio ar eich cais. Cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur am ragor o wybodaeth. Ebostiwch nature@keepwalestidy.cymru
Rydym eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer y safle arfaethedig, a ydym yn dal yn gymwys i wneud cais?
Ydych, ar yr amod nad yw’r cyllid yr ydych eisoes wedi ei sicrhau yn dyblygu unrhyw eitemau sydd wedi eu cynnwys yn y pecyn penodol yr ydych yn gwneud cais amdano. Mae’n rhaid i ni sicrhau nad oes unrhyw gyllid dwbl wedi ei sefydlu. Nid yw’r pecynnau wedi eu bwriadu i fod yn lle cyllid arall, dylent fod ar gyfer gweithgareddau newydd/heb eu hariannu.
Rydym wedi derbyn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus yn y gorffennol, oes modd i ni ymgeisio eto?
Mae’n dibynnu ar sut mae eich prosiect yn bodloni’r meini prawf a’r lleoliad arfaethedig. Cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i drafod syniadau prosiect penodol, ond yn gyffredinol:
Rydym yn awyddus i weld grwpiau a dderbyniodd becynnau dechreuol y llynedd yn mynd ymlaen i becynnau datblygu ar raddfa fwy yn 2021.
Os derbynioch becyn dechreuol y llynedd a’i osod yn llwyddiannus, ac rydych yn bodloni holl feini prawf eleni, yna byddem yn eich annog i ymgeisio am becyn datblygu ar gyfer yr un safle, neu safle gwahanol.
Gallwch ymgeisio am becyn dechreuol arall os hoffech, ond byddem yn argymell i chi ymgeisio ar gyfer safle gwahanol. Noder er hynny bod blaenoriaeth yn debygol o gael ei rhoi i ymgeiswyr nad ydynt wedi ymgeisio o’r blaen.
Pwy ydych yn ystyried yn grŵp difreintiedig/grŵp wedi ymddieithrio?
Rydym yn croesawu ac yn cefnogi ceisiadau gan grwpiau difreintiedig/grwpiau wedi ymddieithrio a all fod heb gynrychiolaeth ddigonol neu gyda gallu cyfyngedig ar gyfer ymwneud â phrosiectau megis Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Bydd ceisiadau’n sgorio’n uchel os ydynt yn cynnwys cyfranogwyr o’r grwpiau canlynol:
Nid ydym yn grŵp difreintiedig, oes modd i ni ymgeisio o hyd?
Oes. Mae tri maen prawf hanfodol arall y mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn eu bodloni (gweler uchod). Fodd bynnag, rydym yn annog pob ymgeisydd i amlinellu sut maent wedi ymgynghori ag aelodau difreintiedig / heb gynrychiolaeth ddigonol o’u cymuned leol a sut y byddant yn ymwneud â’r prosiect wrth symud ymlaen, gan ein bod eisiau i’r prosiectau fod mor gynhwysol â phosib. Bydd cynnwys grwpiau difreintiedig yn cryfhau eich cais, gan roi cyfle uwch o lwyddiant i chi.
A oes angen i ni fod yn grŵp cyfansoddiadol i ymgeisio am becyn dechreuol?
Nac oes.
Gall swyddogion Cadwch Gymru’n Daclus eich cefnogi i ddod yn grŵp cyfansoddiadol. Mae gennym gyfansoddiadau templed ar gael, a gall ein tîm o swyddogion cymunedol eich helpu drwy’r broses syml. Ewch i’n tudalen tîm (adran gweithredu cymunedol) am fanylion ynglŷn â’ch swyddog prosiect lleol neu gofynnwch i’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur am gyngor.
Sut ydw i’n ymgeisio?
Gosodwch eich cais i mewn cyn gynted â phosibl. Gellir dod o hyd i’r holl fanylion ar dudalennau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Gellir lawrlwytho’r ffurflen gais pecyn dechreuol drwy glicio ar y ddolen isod. Atebwch bob cwestiwn gan gadw at y cyfrif geiriau sy’n cael ei argymell.
Sut mae ceisiadau yn cael eu hasesu a’u dewis?
Bydd yr holl geisiadau’n cael eu hasesu gan banel grantiau sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadwch Gymru’n Daclus, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Partneriaethau Natur Lleol ac arbenigwyr natur lleol.
Bydd ceisiadau a dderbynnir ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2021 yn cael eu hasesu ar ddechrau 2022.
Wrth ystyried ceisiadau, bydd y panel yn dyfarnu pecynnau ar draws ystod eang o leoliadau / partneriaid / sefydliadau fel y gellir treialu a monitro dulliau gwahanol.
Bydd y panel yn penderfynu a yw cais yn:
Os caiff yr holl flaenoriaethau uchod eu sgorio’n gyfartal, yna bydd y pecyn yn cael ei ddyfarnu i’r ymgeisydd yn yr ardal o amddifadedd cyffredinol uchaf yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Beth yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a lle gallaf ddysgu mwy?
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae wedi’i ddylunio i adnabod yr ardaloedd bach hynny lle mae’r crynodiadau uchaf o nifer o wahanol fathau o amddifadedd. Ar hyn o bryd mae MALlC yn cynnwys wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd.
Cliciwch yma am fap MALlC rhyngweithiol o ardaloedd o amddifadedd uchel. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i geisiadau yn y 30% mwyaf difreintiedig o unrhyw ystadegyn MALlC (e.e. corfforol, addysg, incwm).
Rydym hefyd yn awyddus i weld ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu eu gwaith ymhellach trwy wneud cais am becyn datblygu.
Pryd byddwn yn clywed a ydym wedi bod yn llwyddiannus?
Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod dros e-bost dim mwy na phum diwrnod gwaith ar ôl cyfarfod panel grantiau.
Mae’r ffurflen gais yn cyfeirio at what3words. Beth yw what3words a pham mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio?
Gwefan ac ap yw what3words sydd wedi rhannu’r byd yn sgwariau tri metr a rhoi cyfuniad unigryw o dri gair i bob sgwâr. Dyma’r ffordd hawsaf o ddod o hyd i leoliadau penodol a’u rhannu. Mae mwy a mwy o gwmnïau danfon yn mynnu defnyddio what3words wrth gynllunio danfoniadau. Dyma’r ffordd orau o sicrhau bod eitemau yn cael eu danfon i’r union leoliad.
Ewch i www.what3words.com i nodi union leoliad eich gardd a’r lleoliad danfon.
Beth yw’r gost?
Dim byd
A fydd angen yswiriant arnom ni?
Bydd. Bydd angen i chi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y safle. Siaradwch â’r tirfeddiannwr i weld pa lefel yswiriant sydd ei hangen. Efallai fod yswiriant ar waith yn barod.
Os yw swyddog Cadwch Gymru’n Daclus yn bresennol yn ystod gweithgaredd, yna bydd cyfranogwyr wedi’u hyswirio ar gyfer damweiniau personol. Fodd bynnag, nid fydd yr yswiriant hwn ar waith os nad yw’r swyddog yn bresennol, felly bydd angen i chi gael yswiriant digonol ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol.
Ble gallwn ni gael yswiriant?
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rhedeg cynllun yswiriant grwpiau cymunedol er mwyn darparu yswiriant fforddiadwy i grwpiau cymunedol. Mae’n darparu yswiriant AM DDIM i grwpiau sydd wedi ffurfio a chyfansoddi yn ystod y 12 mis diwethaf. Felly, os ydych yn grŵp newydd gallech gael hyd at un flwyddyn o yswiriant am ddim. Noder, gall Cadwch Gymru’n Daclus eich helpu i ddod yn gyfansoddiadol (gweler yr adran grŵp cyfansoddiadol isod).
I grwpiau sydd wedi bodoli am fwy na 12 mis, mae’r pris yn dechrau ar £75 am gost yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a damwain bersonol y flwyddyn. Gellir sicrhau yswiriannau eraill hefyd e.e. defnyddio offer pŵer, offer a cholli offer. I gael mwy o wybodaeth am gostau a’r broses ymgeisio, ewch i’n tudalen yswiriant grŵp neu anfonwch e-bost at groupfunding@keepwalestidy.cymru
Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu costau yswiriant, cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Rydym yn aros am ganiatâd y tirfeddiannwr, oes modd i ni ymgeisio?
Nac oes, mae’n rhaid i chi gael tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatâd y tirfeddiannwr cyn cyflwyno eich cais. Ni fydd eich cais yn mynd i’r panel hyd nes y bydd wedi’i gwblhau’n llawn, yn cynnwys tystiolaeth o ganiatâd, lluniau, mapiau etc.
Rydym wedi bod yn gweithio ar ein safle ers blynyddoedd o dan gytundeb geiriol gan y tirfeddiannwr. A yw hyn yn ddigonol?
Nac ydy, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatâd y tirfeddiannwr.
Unigolyn preifat sy’n berchen ar y tir, ond mae gennym brydles am ddeng mlynedd, oes modd i ni ymgeisio?
Oes, o bosib. Ebostiwch gopi o’ch prydles at nature@keepwalestidy.cymru fel y gallant wirio a ydych yn gymwys.
Nid oes unrhyw ffurflen swyddogol i’w chwblhau. Dim ond tystiolaeth gan berchennog y tir sydd ei hangen arnom sydd yn dangos caniatâd i osod y safle a’i gynnal am bum mlynedd. Gallai hyn fod yn gytundeb ffurfiol yr ydych wedi ei lofnodi, prydles, trwydded neu ebost gan berchennog y tir sydd yn rhoi caniatâd i waith fynd yn ei flaen ar y safle arfaethedig. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r tîm Natur am gyngor.
Nid wyf yn gwybod beth yw gwerth y safle yn nhermau bywyd gwyllt / natur. A allwch chi helpu?
Peidiwch â phoeni. Dywedwch wrthym beth sy’n bodoli ar y safle ar hyn o bryd e.e. a yw’n arwyneb caled megis concrid neu slabiau palmant, neu a yw’n laswellt?
Mae’r pecynnau cychwynnol wedi eu dylunio ar gyfer mannau bach heb lawer o fynediad, os o gwbl, at natur, lle nad oes unrhyw gyfle ar gyfer adfywio naturiol. Er enghraifft, ar arwyneb artiffisial (ee iard yr ysgol), mewn gerddi cymunol, o flaen adeiladau cymunedol neu ar gorneli stryd. Nid ydynt yn addas i’w rhoi mewn mannau gwyrdd mawr, neu mewn lleoliadau lle mae bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn ffynnu ee Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Lleol, ardaloedd cyfoethog eu rhywogaethau.
Sut y byddwn yn gwybod bod y rhywogaethau o blanhigion a ddarperir yn addas ar gyfer ein hardal ni?
Mae cynnwys y pecyn wedi cael ei gymeradwyo gan dîm bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r gymysgedd o rywogaethau a ddewisir yn gyffredinol, yn frodorol ac yn addas ar gyfer ystod eang o gynefinoedd. Bydd cynrychiolwyr partneriaeth Natur Leol a arbenigwyr bywyd gwyllt yn mynychu pob panel grant i asesu ceisiadau.
Faint o le sydd ei angen arnom i osod holl eitemau’r pecyn?
Mae angen man sy’n mesur 5 metr sgwâr o leiaf ar gyfer pecynnau dechreuol.
A yw pob pecyn dechreuol yn addas ar gyfer arwynebau caled?
Nac ydy, y pecyn gorau ar gyfer arwyneb caled yw’r pecyn gardd drefol, er byddai’r pecyn i beillwyr yn addas hefyd. NID yw’r pecyn ffrwythau yn addas ar gyfer arwynebau caled.
Nid oes gennym gynllun cynnal a chadw nac unrhyw offer i gynnal y safle yn y dyfodol, oes modd i ni gael pecyn?
Mae cynnal a chadw’r safle yn barhaus yn un o’r meini prawf asesu hanfodol. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid yn eich helpu i baratoi cynllun cynnal a chadw a ynglŷn â sut mae gofalu am y safle yn yr hirdymor. Yn anffodus, os nad ydych yn cytuno i gynnal a chadw’r safle am bum mlynedd bydd eich cais yn aflwyddiannus.
Faint o wirfoddolwyr sydd eu hangen arnom i adeiladu a rheoli’r lleoedd natur?
Rydym yn argymell pum gwirfoddolwr craidd o leiaf i adeiladu’r safle er po fwyaf o bobl leol sydd ynghlwm, y gorau. Bydd gwirfoddolwyr ychwanegol yn lledaenu’r llwyth gwaith a gallant ddarparu cefnogaeth foesol drwy ymgymryd â rolau megis lluniaeth, hyrwyddo’r safle drwy’r cyfryngau cymdeithasol a ffotograffiaeth. Rhaid i ymgeiswyr ymrwymo i 25 awr yn ystod 2021-22 i osod a rheoli’r ardd. Rhaid cynnal yr holl weithgareddau yn unol â chyfyngiadau COVID-19 Llywodraeth Cymru.
Oes angen i chi fod yn heini? Pa mor gorfforol fydd y gwaith?
Bydd tasgau sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu. Bydd rhai gweithgareddau yn cynnwys gweithgareddau corfforol megis codi, plygu a phalu ond bydd llawer o dasgau mwy ysgafn hefyd megis plannu, chwynnu a dyfrio. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i weithgareddau addas i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan.
Oes angen unrhyw sgiliau neu brofiad arnom?
Nac oes, bydd swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i egluro gweithgareddau’r prosiect yn fanwl a darparu hyfforddiant a chefnogaeth anffurfiol. Byddant yn cynnal asesiad risg ac yn mynd drwy sesiwn friffio iechyd a diogelwch gyda’r holl gyfranogwyr. Bydd dogfennau canllaw a chyfarwyddiadau syml yn cael eu darparu i wirfoddolwyr eu dilyn.
Beth sydd angen i wirfoddolwyr ddod gyda nhw?
Byddwch yn gweithio ar safle’r tu allan, efallai heb ddim lloches ac rydych yn debygol o faeddu. Rydym yn gofyn i wirfoddolwyr wisgo dillad addas ar gyfer yr amodau tywydd a ragwelir ac esgidiau trwm. Gofynnir i wirfoddolwyr ddod â’u menig garddio neu weithio eu hunain. Bydd rhai offer yn cael eu darparu, ond yn dibynnu ar y niferoedd disgwyliedig a math o becyn, gall fod yn syniad da i wirfoddolwyr / grwpiau ddod â rhawiau, tryweli ychwanegol etc.
A all plant gymryd rhan?
Gallant, ond bydd angen i blant dan 16 oed gael eu goruchwylio gan oedolion.
A all y pecynnau gael eu rhannu dros fwy nag un safle? Na, mae’r pecynnau dechreuol yn fach ac wedi’u cynllunio i fynd ar un safle
A allwn ni newid cynnwys y pecyn ni wedi dewis?
Na. Mae pob pecyn wedi ei bennu ymlaen llaw felly byddwch yn derbyn yr HOLL eitemau sydd wedi eu rhestru isod. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o le i roi a storio’r holl eitemau angenrheidiol cyn gwneud cais.
Ym mha ffordd fydd staff Cadwch Gymru’n Daclus ar gael i’n cefnogi i osod y pecynnau?
Bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu eich gardd newydd. Po gyntaf yr ydych yn archebu eich dyddiau gweithgaredd gyda’ch swyddog lleol, po fwyaf tebygol ydych o gael y dyddiadau sydd orau gennych, yn enwedig os ydych eisiau i’r gwaith ddigwydd ar y penwythnos. Byddwn hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar gyfer cynnal a chadw’r safle yn y dyfodol.
Pan fydd y prosiect wedi’i adeiladu, a allwn ni gadw’r offer? Oes.
Beth fydd yn digwydd os byddwn yn cael pecyn, ond yn methu ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2023?
Rhaid cwblhau’r holl waith erbyn yr amser hwnnw. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac nad oes modd i chi gadw at yr amserlen hon mwyach, RHAID i chi roi gwybod i Cadwch Gymru’n Daclus cyn gynted â phosib er mwyn iddo allu dyrannu’r pecyn i rywun arall.
Rydym yn gobeithio gwneud cais ar gyfer cronfa gyfalaf Lle Lleol ar gyfer Natur newydd y Loteri Genedlaethol, a ydym hefyd yn gallu gwneud cais am becyn?
Nid ar gyfer yr un gweithgareddau, ond efallai y bydd gwaith arall nad yw pecynnau yn ei gwmpasu a allai fod yn gymwys. Bydd angen i chi siarad â’r Loteri Genedlaethol i gadarnhau.
Os dyrennir prosiect inni, a fydd Cadwch Gymru’n Daclus yn atgyweirio neu’n amnewid eitemau yn y pecyn sydd wedi treulio, wedi torri, wedi’u difrodi neu’n cael eu dwyn?
Na, dim ond unwaith y bydd y cyllid yn talu am yr eitemau a’u gosod. Os gwelwch yn dda gweithio gyda’n tîm i ystyried lleoliad eitemau wrth gynllunio eich gardd e.e. strwythurau cysgodi megis siediau / tai gwydr / delltwaith rhag gwyntoedd cryf os yn bosibl.
Sut bydd fy mhecyn yn cael ei ddosbarthu?
Bydd yn gyfuniad o eitemau mewn bocsys wedi eu dosbarthu gan gludydd ac eitemau mwy fydd yn cael eu dosbarthu ar baledi. Mae’r lluniau isod wedi eu dylunio i roi syniad o faint rhai o’r eitemau fydd yn cael eu dosbarthu.