Gallwch greu gardd fach sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac yn llawn amrywiaeth o gynefinoedd i beillwyr ffynnu.
Byddwn yn rhoi’r holl ddeunyddiau, yr offer a’r canllawiau sydd eu hangen arnoch i roi help llaw i natur ‘ar eich stepen drws’. Bydd hyd yn oed rhywfaint o gymorth swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gael i’ch helpu chi i osod eich gardd newydd.
Gallai cynnwys pecynnau newid
Isafswm yr ardal sydd yn angenrheidiol ar gyfer y pecyn hwn yw pum metr sgwâr.
Bydd yr amrywiaeth o lwyni, planhigion a pherlysiau a ddarperir yn dibynnu ar y tymor ac argaeledd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae’n bwysig iawn eich bod yn deall pa wybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen cyn i chi ddechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o gynyddu eich siawns o fod yn llwyddiannus a chael gafael ar Becyn Dechreuol Gardd Bywyd Gwyllt.