Gallwch greu gardd fach yn llond o goed a llwyni a fydd yn darparu ffrwythau a pherlysiau i’ch cymuned leol eu tyfu, eu cynaeafu a’u mwynhau.
Byddwn yn eich cyflenwi â’r holl ddeunyddiau, offer a chanllawiau sydd eu hangen arnoch i ‘dyfu eich bwyd eich hun’.
Mae’r holl becynnau gardd wedi cael eu dyrannu bellach. Am ymholiadau, cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru
Gallai cynnwys pecynnau newid
Byddwch hyd yn oed yn gallu manteisio ar rywfaint o gymorth gan swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus i’ch helpu i osod eich gardd newydd.
Mae angen man sy’n mesur 40 metr sgwâr o leiaf ar gyfer y pecyn hwn. Bydd yr amrywiaeth o goed, llwyni a pherlysiau sy’n cael eu darparu yn dibynnu ar y tymor a beth sydd ar gael.
Cofiwch ddarllen ein cwestiynau cyffredin cyn ymgeisio.