Newydd sbon ar gyfer 2024! Yn cyflwyno’r Pecyn Enfawr, ein gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fwyaf erioed.
Mae ein Pecynnau Enfawr wedi eu cynllunio ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd ag ardal enfawr o ofod gwag wedi ei esgeuluso (tua maint dau gwrt tennis a hanner yn fras) i’w drawsnewid yn ardd gymunedol sy’n fynnu, gyda pherllan, ardal tyfu bwyd a phwll.
Bydd swyddog wedi ei neilltuo gan Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i gynllunio a chreu eich gardd ‘enfawr’, ond mae’n rhaid i chi ymrwymo i ofalu amdani am flynyddoedd i ddod.
Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr a bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau â chyfranogiad cryf yn y gymuned, y rhai sydd mewn trefi, dinasoedd, ardaloedd difreintiedig a mannau heb lawer o le na mynediad at natur.
Mae ceisiadau am Becynnau Enfawr eleni nawr ar gau! Cymerwch olwg ar y pecynnau gardd eraill AM DDIM sydd ar gael.
Gallai cynnwys pecynnau newid
Mae isafswm yr ardal sydd ei hangen ar gyfer Pecyn Enfawr yn agos at 700 metr sgwâr.
Ddim yn siŵr a yw eich safle’n ddigon mawr? Gall y Canfyddwr Cyfeirnod Grid fod yn offeryn defnyddiol. Mae’n eich galluogi i ddod o hyd i’ch lleoliad a thynnu llun polygon, gan roi’r ardal mewn metrau sgwâr i chi. Cliciwch yma i fynd i’r Canfyddwr Cyfeirnod Grid (safle allanol)
Bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion a gyflenwir yn dibynnu ar y tymor ac argaeledd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr iawn, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd ei angen. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen arnoch cyn i chi ddechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o roi hwb i’ch cyfle o fod yn llwyddiannus a chael gafael ar Becyn Enfawr
Mae ceisiadau ar gyfer y pecyn hwn bellach wedi cau.
Mae gennym dri cydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cynorthwyo chi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch ebost atynt.
Mae ein Pecynnau Datblygu yn dal yn brosiectau mawr, ond dim ond yn 215-240 metr sgwâr (ychydig yn llai na maint un cwrt tennis).