A A A

Crëwch 'gyffro' yn eich cymuned

Gallwch greu gardd fach sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac yn llawn amrywiaeth o gynefinoedd i beillwyr ffynnu.

Byddwn yn rhoi’r holl ddeunyddiau, yr offer a’r canllawiau sydd eu hangen arnoch i roi help llaw i natur ‘ar eich stepen drws’. Bydd hyd yn oed rhywfaint o gymorth swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gael i’ch helpu chi i osod eich gardd newydd.

Bydd y pecyn yn cynnwys:

Gallai cynnwys pecynnau newid

  • Bocsys cynefin
  • Planhigion dringo a llwyni
  • Gwely uchel, compost a delltwaith
  • Planhigion blodau gwyllt brodorol
  • Offer llaw
  • Menig
  • Can dŵr
  • Llawlyfr

Gwybodaeth bwysig

Isafswm yr ardal sydd yn angenrheidiol ar gyfer y pecyn hwn yw pum metr sgwâr.

Bydd yr amrywiaeth o lwyni, planhigion a pherlysiau a ddarperir yn dibynnu ar y tymor ac argaeledd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae’n bwysig iawn eich bod yn deall pa wybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen cyn i chi ddechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o roi hwb i’ch cyfle i fod yn llwyddiannus a chael gafael ar Becyn Gardd Bywyd Gwyllt Gardd Bywyd Gwyllt Fach.

Angen cymorth gyda’ch cais?

Mae gennym dri cydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cynorthwyo chi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch ebost atynt.

Cysylltwch â’r tîm

A oes gennych le ar gyfer gardd fwy?

Gwnewch gais ar gyfer ein Pecyn Gardd – trawsnewidiad ar raddfa fawr wedi ei gynllunio i gynnwys y gymuned gyfan.

Canfod mwy