A A A

Tyfu eich bwyd eich hun!

Gallwch greu gardd fach yn llond o goed a llwyni a fydd yn darparu ffrwythau a pherlysiau i’ch cymuned leol eu tyfu, eu cynaeafu a’u mwynhau.

Byddwn yn rhoi’r holl ddeunyddiau, yr offer a’r canllawiau sydd eu hangen arnoch i ‘dyfu eich hun’. Bydd hyd yn oed rhywfaint o gymorth swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gael i’ch helpu chi i osod eich gardd newydd.

Bydd y pecyn yn cynnwys:

Gallai cynnwys pecynnau newid

  • Blodau bwytadwy
  • Planhigion mefus
  • Llwyn sydd yn dwyn ffrwyth mewn pot
  • Planhigion dringo
  • Bocsys cynefin
  • Gwely uchel, compost a delltwaith
  • Menig
  • Offer llaw
  • Can dŵr
  • Llawlyfr

Gwybodaeth bwysig

Isafswm yr ardal sydd yn angenrheidiol ar gyfer y pecyn hwn yw pum metr sgwâr. Bydd yr amrywiaeth o goed, llwyni a pherlysiau sy’n cael eu darparu yn dibynnu ar y tymor a beth sydd ar gael.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae’n bwysig iawn eich bod yn deall pa wybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen cyn i chi ddechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o roi hwb i’ch cyfle i fod yn llwyddiannus a chael gafael ar Becyn Gardd Fwyd Fach.

Angen cymorth gyda’ch cais?

Mae gennym dri cydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cynorthwyo chi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch ebost atynt.

Cysylltwch â’r tîm

A oes gennych le ar gyfer gardd fwy?

Gwnewch gais am ein Pecyn Gardd – trawsnewidiad ar raddfa fawr wedi ei gynllunio i gynnwys y gymuned gyfan.

Canfod mwy