Crëwch hyb awyr agored ar gyfer eich cymuned – gofod yn llawn coed ffrwythau a chnau, planhigion cynhenid a blodau gwyllt, lle gall pobl o bob oed ddod ynghyd.
Mae’r holl becynnau gardd wedi cael eu dyrannu bellach. Am ymholiadau, cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru
Gallai cynnwys pecynnau newid
Mae ein pecynnau perllan wedi eu dylunio ar gyfer sefydliadau sydd eisiau creu perllannau cymunedol bach ar dir sydd â ‘pherchnogaeth ddielw’. Rydym yn gwybod na fydd gennych brofiad o dyfu bwyd o bosib, felly byddwn yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu mannau tyfu, a’ch helpu i blannu eich cnydau newydd, i ofalu amdanynt a’u cynaeafu.
Mae angen man sy’n mesur 320 metr sgwâr o leiaf ar gyfer y pecyn hwn. Bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion sy’n cael eu darparu yn dibynnu ar y tymor a beth sydd ar gael.
Dyma brosiect ar raddfa fawr, felly cofiwch ddarllen ein cwestiynau cyffredin cyn ymgeisio.