Crëwch hyb awyr agored i’ch cymuned – gofod yn llawn coed ffrwythau, bylbiau a bocsys cynefin, lle gall pobl o bob oed ddod ynghyd.
Mae ein pecyn perllan gymunedol wedi ei ddylunio ar gyfer sefydliadau sydd eisiau creu perllan gymunedol fach ar dir sydd â ‘pherchnogaeth ddielw’.
Noder, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Becyn Perllan yw 27 Hydref 2023.
Gallai cynnwys pecynnau newid
Mae angen man sy’n mesur 320 metr sgwâr o leiaf ar gyfer y pecyn hwn. Bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion sy’n cael eu darparu yn dibynnu ar y tymor a beth sydd ar gael.
Rydym yn gwybod na fydd gennych brofiad o dyfu bwyd o bosib, felly byddwn yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu mannau tyfu, a’ch helpu i blannu eich cnydau newydd, i ofalu amdanynt a’u cynaeafu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd ei angen gan wirfoddolwyr. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth sydd angen i chi eu darparu cyn dechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o gynyddu eich siawns o fod yn llwyddiannus a chael gafael ar becyn Perllan Gymunedol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Becyn Perllan yw 27 Hydref 2023.
Mae’r Pecyn Perllan wedi galluogi Cyfeillion Parc Nant-y-Waun i drawsnewid ardal nad oedd yn cael ei defnyddio llawer, oedd â gwerth ecolegol isel, yn amwynder deniadol. Mae’r meinciau yn galluogi defnyddwyr niferus y Parc i aros a mwynhau’r coed ffrwythau ynghyd â’n golygfeydd rhagorol. Bydd blodau’r coed o fudd i’n peillwyr a bydd eu ffrwythau’n cael eu gwerthfawrogi gan bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd. Parc Nant Y Waun, Blaenau Gwent
Mae’r Pecyn Perllan wedi galluogi Cyfeillion Parc Nant-y-Waun i drawsnewid ardal nad oedd yn cael ei defnyddio llawer, oedd â gwerth ecolegol isel, yn amwynder deniadol. Mae’r meinciau yn galluogi defnyddwyr niferus y Parc i aros a mwynhau’r coed ffrwythau ynghyd â’n golygfeydd rhagorol. Bydd blodau’r coed o fudd i’n peillwyr a bydd eu ffrwythau’n cael eu gwerthfawrogi gan bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.
Parc Nant Y Waun, Blaenau Gwent
Rwyf wir wedi mwynhau plannu’r berllan a dysgu am yr holl goed a’r planhigion sy’n dod o Gymru. Rwy’n mwynhau bywyd gwyllt a bydd hyn yn helpu’r holl adar, trychfilod a phlanhigion eraill. Disgybl Blwyddyn 6 Hafod Wennog, Sir Gaerfyrddin
Rwyf wir wedi mwynhau plannu’r berllan a dysgu am yr holl goed a’r planhigion sy’n dod o Gymru. Rwy’n mwynhau bywyd gwyllt a bydd hyn yn helpu’r holl adar, trychfilod a phlanhigion eraill.
Disgybl Blwyddyn 6 Hafod Wennog, Sir Gaerfyrddin
Mae gardd KIM bellach yn hafan ar gyfer lles, garddwyr a bywyd gwyllt! Rydym wedi trawsnewid y gofod gyda rhywogaethau cynhenid, pwysig, hardd. Mae hyn wedi bod yn rhan wych o’r pecyn – y sylw i fanylder gyda’r coed, y bylbiau a’r offer a chyrchu pethau’n lleol. KIM Inspire, Sir y Fflint
Mae gardd KIM bellach yn hafan ar gyfer lles, garddwyr a bywyd gwyllt! Rydym wedi trawsnewid y gofod gyda rhywogaethau cynhenid, pwysig, hardd. Mae hyn wedi bod yn rhan wych o’r pecyn – y sylw i fanylder gyda’r coed, y bylbiau a’r offer a chyrchu pethau’n lleol.
KIM Inspire, Sir y Fflint
Rydym wrth ein bodd ac yn llawn cyffro i dderbyn [y pecyn] hwn i greu perllan gymunedol gan Cadwch Gymru’n Daclus. Mae wedi bod yn wych i’n gwirfoddolwyr i gyfarfod unwaith eto ac fe wnaethom fwynhau ein diwrnod plannu coed. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y berllan a gobeithio, mewn ychydig flynyddoedd, gallu pigo ffrwythau i’r gymuned gyfan eu mwynhau. Parc Trevor Rowson Glynebwy
Rydym wrth ein bodd ac yn llawn cyffro i dderbyn [y pecyn] hwn i greu perllan gymunedol gan Cadwch Gymru’n Daclus. Mae wedi bod yn wych i’n gwirfoddolwyr i gyfarfod unwaith eto ac fe wnaethom fwynhau ein diwrnod plannu coed. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y berllan a gobeithio, mewn ychydig flynyddoedd, gallu pigo ffrwythau i’r gymuned gyfan eu mwynhau.
Parc Trevor Rowson Glynebwy