Cwestiynau Cyffredinol Perllan Gymunedol

Crëwch hyb awyr agored ar gyfer eich cymuned – gofod yn llawn coed ffrwythau a chnau, planhigion cynhenid a blodau gwyllt, lle gall pobl o bob oed ddod ynghyd.

Edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol am yr holl ddiweddariadau diweddaraf.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y canllaw hwn, cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Noder, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Becyn Perllan yw 27 Hydref 2023.

Darllenwch y canlynol cyn cyflwyno'ch cais

Mae pob pecyn wedi ei bennu ymlaen llaw felly byddwch yn derbyn yr HOLL eitemau sydd wedi eu rhestru isod. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o le i roi a storio’r holl eitemau angenrheidiol cyn gwneud cais.

Bydd eich swyddog Cadwch Gymru’n Daclus lleol yn cytuno ar gynllun gwaith ac amserlen ddosbarthu gyda chi, ond bydd angen eich bod ar gael i dderbyn yr holl eitemau isod yn unol â’r hyn a gytunwyd.

Eitemau perllan cymunedolManylion dosbarthu
12x coeden yn cynnwys pyst, gwarchodwyr, ac ati Cludwr
320x bylbiau cynhenidPost
2x flwch trychfilod a 2x flwch draenogodCludwr blychau mawr
2x fainc blastig wedi eu hailgylchuPaled
2x llif docio, brigdociwr ymestynnol, plannwr bylbiau, siswrn tocio, 2x rhaca, can dŵr, berfa, 10x pâr o fenig Cludwr blychau mawr
Casgen ddŵrCludwr
2x llyfr canllawPost
Gofynion hanfodol, cymhwysedd a’r broses ymgeisio
Yswiriant a chaniatâd y tirfeddiannwr
Y safle a chyfranogiad gwirfoddolwyr
Mwy am ein pecynnau