A A A

Crëwch hyb awyr agored sy’n llawn coed ffrwythau, bylbiau a bocsys cynefin!

Mae gennym ni ddwy fath o berllan ar gael: gall grwpiau a sefydliadau cymunedol wneud cais am ein Pecynnau Perllannau Cymunedol, a gall ysgolion wneud cais am ein Pecynnau Perllan Ysgol.

Mae ein perllannau i gyd yn cynnwys yr un eitemau ond mae’r gefnogaeth y byddwch chi’n ei derbyn gan Cadwch Gymru’n Daclus ychydig yn wahanol yn dibynnu ar p’un a ydych chi’n sefydliad cymunedol neu’n ysgol.

Darllenwch ymlaen am yr holl fanylion.

Mae'r pecynnau'n cynnwys

Mae Pecynnau Perllannau Cymunedol a Phecynnau Perllan Ysgol yn cynnwys yr eitemau canlynol. Noder, bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion sy’n cael eu darparu yn dibynnu ar y tymor a beth sydd ar gael. Efallai y bydd eitemau eraill yn cael eu newid hefyd.

Yr ardal leiaf sydd ei hangen ar gyfer ein perllannau yw 400 metr sgwâr.

  • 15 coed ffrwythau cynhenid
  • Bylbiau cynhenid
  • 2 fainc blastig wedi eu hailgylchu neu un fainc picnic
  • Menig
  • Casgen dŵr
  • Berfa
  • Offer llaw
  • Llawlyfrau / llyfrau gwybodaeth

Pecynnau ar gael:

Mae dau becyn ar gael, Perllannau Cymunedol a Pherllannau Ysgol.
Cliciwch isod i ddarganfod mwy.

Gwybodaeth bwysig i Berllannau Cymunedol

Mae ein Pecyn Perllannau Cymunedol wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau sydd am greu perllan gymunedol fach, lle gall pobl o bob oed ddod at ei gilydd, ar dir sydd â ‘pherchnogaeth ddielw’.

Rydym yn gwybod na fydd gennych brofiad o dyfu bwyd o bosib, felly bydd ein swyddogion prosiect arbenigol yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu mannau tyfu, a’ch helpu i blannu eich cnydau newydd, i ofalu amdanynt a’u cynaeafu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd ei angen gan wirfoddolwyr. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth sydd angen i chi eu darparu cyn dechrau eich cais.  Dyma’r ffordd orau o gynyddu eich siawns o fod yn llwyddiannus a chael gafael ar becyn Perllan Gymunedol.

Gwybodaeth bwysig i Berllannau Ysgol

Mae ein Pecyn Perllannau Ysgol ar gyfer unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol sydd am wella eu tiroedd a chreu gofod ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ddylunio perllan eich ysgol a’ch cefnogi i blannu a gofalu am eich cnydau. Bydd ein tîm Eco-Sgolion hefyd yn cyflwyno gweithdy rhyngweithiol arbennig a gynlluniwyd i helpu disgyblion i ddeall pwysigrwydd coed brodorol a diogelu cynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd eu hangen. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth y mae angen i chi eu darparu cyn dechrau eich cais.

Angen help gyda'ch cais?

Mae gennym dri chydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cefnogi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch e-bost atynt.

Cysylltwch â'r tîm

Chwilio am brosiect llai?

Mae angen llawer llai o le ar ein Pecynnau Dechreuol a gall unrhyw grŵp cymunedol neu wirfoddolwyr wneud cais.

Darganfod mwy

Clywch o safleoedd llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Mae Pecyn Berllan wedi galluogi Cyfeillion Parc Nant-y-Waun i drawsnewid ardal nas defnyddir yn ddigon o werth ecolegol isel yn amwynder deniadol. Mae’r meinciau yn galluogi defnyddwyr niferus y Parc i oedi a mwynhau’r coed ffrwythau ynghyd â’n golygfeydd godidog. Bydd blodau’r coed o fudd i’n peillwyr tra bydd eu ffrwythau’n cael eu gwerthfawrogi gan fodau dynol a bywyd gwyllt fel ei gilydd.


Parc Nant Y Waun, Blaenau Gwent

Clywch o safleoedd llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Rydw i wedi mwynhau plannu’r berllan a dysgu am yr holl goed a phlanhigion sy’n dod o Gymru. Rwy'n mwynhau bywyd gwyllt a bydd hyn yn helpu'r holl adar, chwilod a phlanhigion eraill.

Disgybl blwyddyn 6
Hafod Wennog, Sir Gaerfyrddin

Clywch o safleoedd llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Mae gardd KIM bellach yn hafan i les, garddwyr a bywyd gwyllt! Rydyn ni wedi trawsnewid y gofod gyda rhai rhywogaethau brodorol hardd, pwysig. Mae hyn wedi bod yn rhan fawr o'r pecynnau - y sylw i fanylion gyda'r coed, bylbiau a'r offer a dod o hyd i bethau'n lleol.

Angen help gyda'ch cais?
KIM Inspire, Sir y Fflint

Clywch o safleoedd llwyddiannus Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Roeddem yn falch iawn ac yn gyffrous i dderbyn y [pecyn] hwn i greu perllan gymunedol gan Cadwch Gymru'n Daclus. Mae wedi bod yn wych i’n gwirfoddolwyr gyfarfod eto a mwynheuon ni ein diwrnod plannu coed yn fawr. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal a chadw’r berllan a gobeithio ymhen ychydig flynyddoedd yn gallu pigo ffrwythau i’r holl gymuned eu mwynhau.


Parc Trevor Rowson, Glyn Ebwy