Beth yw Coedwig Fechan?
Cwestiwn da! Mae Coedwig Fechan yn goetir cynhenid, trwychus tua maint cwrt tennis – mae pob un yn cynnwys tua 1,000 o goed. Y syniad yw atgynhyrchu coetir naturiol, gan ddefnyddio 25 coeden gynhenid wahanol.
Plannwyd y chewch Coedwig Fechan cyntaf yng Nghymru ym mis Chwefror 2021.
Peidiwch â chael eich twyllo gan eu maint – gall Coedwig Fechan gael effaith fawr.
Gydag un mewn chwech o rywogaethau o dan fygythiad difodiant yng Nghymru, mae creu cynefinoedd newydd mewn ardaloedd trefol yn bwysicach nag erioed.
Rydym yn dilyn dull arbennig o blannu y mae wedi ei brofi ei fod yn tyfu deg gwaith yn gyflymach, 30 gwaith yn fwy trwchus a 100% yn fwy bioamrywiol na choetir safonol, sydd newydd gael ei blannu. Rydym eisiau denu bywyd gwyllt, gwella ansawdd aer, dileu nwyon tŷ gwydr niweidiol o’r atmosffer a helpu i leihau llifogydd lleol.
Mae ein Coedwigoedd Bychain o fudd i bobl hefyd. Gall ymwelwyr sy’n defnyddio llwybrau ein coedwigoedd gael awyr iach ac ailgysylltu â natur, tra bod plant ysgol yn cael cyfle i ddysgu am fflora a ffawna lleol mewn ystafelloedd dosbarth awyr agored newydd.
Yn 2021, plannwyd pum Coedwig Fechan cyntaf Cymru yn y lleoliadau canlynol:
Yn 2022, plannwyd chweched Coedwig Fechan yng Nghaergybi, Ynys Môn fel rhan o brosiect Caru Cymru.
Cafodd pob safle ei ddewis yn ofalus er mwyn cael yr effaith fwyaf ar natur a chymunedau trefol.
Mae’n ymdrech tîm!
Ariannwyd ein pum Coedwig Fechan cyntaf gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Mae ein coed i gyd wedi cael eu canfod trwy Coed Cadw ac rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Earthwatch, y sefydliad sydd yn arwain mudiad Y Goedwig Fechan yn y DU.
Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid am wneud hyn yn bosibl.
Nawr bod y Coedwigoedd Bychain cyntaf wedi cael eu plannu, ein gobaith yw ymestyn y cynllun i drefi a dinasoedd eraill.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol #TinyForestWales / #YGoedwigFechan
Os hoffech ganfod mwy am Goedwigoedd Bychain yng Nghymru, cysylltwch â’r tîm. Ebost nature@keepwalestidy.cymru