Mae coedwrych yn ffurfio rhan hanfodol o’n tirwedd, ond maent mewn perygl o gael eu hesgeuluso, eu niweidio a’u codi. Rydym yn gweithredu i atal y dirywiad hwn.
Ers 2017, rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Coed Cadw ar brosiect Y Goedwig Hir. Gyda’n gilydd, rydym wedi dod â chymunedau a pherchnogion tir ynghyd i arolygu, creu ac adfer coedwrych.
Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Sefydliad Esmee Fairbairn.
Mae codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd coedwrych wedi bod yn rhan fawr o’r Goedwig Hir.
Rydym wedi creu amrywiaeth o adnoddau am ddim i helpu!
Taflen Prosiect y Goedwig Hir Llyfryn Cylch Rheolaeth Coedwrych Llyfryn Coed Coedwrych Llyfryn Plannu Coedwrych Llyfryn Torri Gwrychoedd Beth sydd yn eich canllaw gweithgareddau gwrychoedd i’r teulu Deg Prif Awgrym ar gyfer Gwrych Iach
Lawrlwythwch ap Y Goedwig Hir i’n helpu i gasglu gwybodaeth hanfodol am gyflwr a gwneuthuriad coedwrych yng Nghymru o ran rhywogaeth.
Mae cynnal arolwg coedwrych yn gyflym ac yn hawdd, diolch i’n canllaw adnabod rhywogaethau defnyddiol. Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei weld a ble yr ydych yn ei weld. Gall yr ap gael ei ddefnyddio ym mhob cwr o Gymru – hyd yn oed os nad oes signal ffôn symudol.
Gallwch lawrlwytho’r ap am ddim!
Mae pecynnau gardd am ddim yn dal ar gael i grwpiau a mudiadau cymunedol
Dangoswch eich cariad at Gymru. Ymunwch â'r mudiad newydd i ddileu sbwriel a gwastraff
Rydym yn helpu i osod safonau uchel ar gyfer parciau, traethau, marinas a thwristiaeth yng Nghymru.