A A A

Codi’r safon

Mae ansawdd amgylcheddol yn greiddiol i’n pwrpas.

Rydym yn helpu i osod safonau uchel ar gyfer mannau gwyrdd, traethau, marinas a thwristiaeth yng Nghymru trwy ein hystod o wobrau rhyngwladol.

Pan fyddwch yn ymweld ag un o’n safleoedd blaenllaw, gallwch fod yn siŵr eich bod yn ymweld â chyrchfan o safon fyd-eang sydd â’r safonau amgylcheddol uchaf posibl.

Yn Cymru Hardd: Strategaeth Cadwch Gymru’n Daclus 2022-2030, rydym wedi addo cynyddu cyfranogiad mewn rhaglenni gwobrwyo sydd yn ysgogi rhagoriaeth amgylcheddol. Darllenwch fwy am ein cynlluniau uchelgeisiol yma.

green-flag-for-parks-site

Ein rhaglenni gwobrwyo

Y staff a’r gwirfoddolwyr sydd yn gweithio’n ddiflino i ddiogelu a gwella eu hamgylchedd sydd i’w diolch am y baneri sydd yn hedfan ar draws Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda nhw ac yn dathlu’r hyn y maent yn ei wneud.

Y Faner Werdd ar gyfer Parciau

Pwrpas Gwobr y Faner Werdd yw cysylltu pobl i’r parciau a’r mannau gwyrdd orau.

Dysgu mwy
Blue Flag at Llangranog
Gwobrau Arfordir

Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn helpu i godi ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn cydnabod arfer da ac yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ryngwladol.

Dysgu mwy
'Goriad Gwyrdd

Mae 'Goriad Gwyrdd yn galluogi busnesau Cymreig i ddathlu’r newidiadau amgylcheddol cadarnhaol y maent.

Dysgu mwy

Mwy o brosiectau

Caru Cymru
caru cymru to eradicate waste

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda phob awdurdod lleol ar draws Cymru ar ein menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.

Cadwraeth
Forest in sunshine

Rydym yn helpu adferiad natur trwy ddiogelu coedwrych, plannu coetir cynhenid, dwys, a chreu gerddi newydd, bioamrywiol.

Addysg

Grymuso pobl ifanc i ysgogi newid amgylcheddol. Mae’n rhaid cymryd camau mentrus er mwyn creu dyfodol mwy cynaliadwy a chydnerth.

Cysylltwch i wneud gwahaniaeth

*Meysydd gofynnol

Eich manylion*

Gwybodaeth ychwanegol

Eich ymholiad*

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth