Green Key
A A A

Rhyddhau cynaliadwyedd yn y diwydiant twristiaeth

Mae ‘Goriad Gwyrdd yn galluogi busnesau Cymreig i ddathlu’r newidiadau amgylcheddol cadarnhaol y maent yn eu gwneud i farchnata eu hunain i gynulleidfa sydd yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’u cyfrifoldeb amgylcheddol.

Am y 'Goriad Gwyrdd

Mae ‘Goriad Gwyrdd wedi cael ei ddyfarnu i fwy na 3,200 o ddarparwyr twristiaeth ar draws 65 o wledydd yn fyd-eang ac mae’n agored i fusnesau ar draws y sector.  O westai bwtîc sydd yn gweini bwyd da, i westai mawr a lleoliadau digwyddiadau gyda’r gallu i ddarparu ar gyfer miloedd, o wely a brecwast i feysydd gwersylla ac atyniadau, mae ‘Goriad Gwyrdd yn ddewis amgylcheddol gynaliadwy wrth gynllunio gwyliau, gwibdeithiau, neu deithiau busnes.

Cafodd ‘Goriad Gwyrdd ei lansio yn Ebrill 2015 ac mae’n cynnig casgliad cynyddol o gyrchfannau mwyaf amgylcheddol gynaliadwy y wlad, gan sicrhau, ble bynnag y byddwch yng Nghymru, y gallwch wneud y dewis gorau ar gyfer yr amgylchedd, yn ogystal â chanfod rhai o’r darparwyr lletygarwch gorau yn y wlad.
Y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) sydd yn berchen ar Goriad Gwyrdd a chaiff ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus.  Rydym hefyd yn rheoli gwobrau safonau amgylcheddol hynod lwyddiannus y Faner Las a ‘Goriad Gwyrdd ar ran FEE yng Nghymru.

Beth yw’r buddion?

Budd 1:

Mae Goriad Gwyrdd yn eco-achrediad

Mae Goriad Gwyrdd yn eco-achrediad sydd yn tywys busnesau tuag at y dewisiadau amgylcheddol gorau i gyd-fynd ag anghenion eu busnes unigol.

Budd 2:

Mae twristiaid yn cefnogi llety cynaliadwy

Mae teithwyr a thwristiaid yn gynyddol ymwybodol o bwysigrwydd cefnogi busnesau cyfrifol yn gymdeithasol ac amgylcheddol gynaliadwy. Mewn arolwg yn 2020 gan Booking.com (a gynhaliwyd ar draws 22 o farchnadoedd byd-eang gyda 1,000 o gyfranogwyr fesul marchnad) dywedodd 82% o’r teithwyr eu bod ystyried cynaliadwyedd yn destun pwysig, ond dim ond 50% sydd yn cytuno bod digon o ddewis o ran lleoedd i aros sydd â nodweddion cynaliadwy.

Budd 3:

Marchnad sy'n dod i'r amlwg sy'n arwain at arbedion masnachol

Mae mwy a mwy o ddarparwyr lletygarwch ar draws y byd yn gwneud newidiadau i’w busnes er mwyn apelio at y farchnad hon sydd yn dod i’r amlwg yn ogystal â gwneud arbedion masnachol sylweddol. Mae’n gyffrous gweld nifer gynyddol o fusnesau Cymreig yn arwain y ffordd yn dangos sut gallant fodloni anghenion yr ymwelwyr newydd hyn. Po fwyaf o fusnesau sydd yn ymuno â’r mudiad, y mwyaf o effaith y gallwn ei gael … rydym eich angen chi.

Budd 4:

Arbedion ariannol trwy gynaliadwyedd

… ac fel elfen ychwanegol, gallwn ddangos i chi sut gall eich busnes wneud arbedion ariannol sylweddol trwy ysgogi ymddygiad cynaliadwy gyda thîm Goriad Gwyrdd wrth law i’ch tywys drwy’r ffordd o weithredu’r newidiadau hyn – beth bynnag yw maint eich busnes. Yn olaf, fel eco-label uchel ei barch ar draws 65 o wledydd yn fyd-eang, mae Goriad Gwyrdd yn cynnig presenoldeb i chi mewn marchnad letygarwch ryngwladol.

Pwy all wneud cais?

Canfod pwy sy’n gymwys i wneud cais am achrediad ‘Goriad Gwyrdd.

Rhagor o wybodaeth

Sut i wneud cais

Proses cam wrth gam syml i wneud cais am ‘Goriad Gwyrdd.

Ymgeisiwch rwan

Cwestiynau Cyffredin

Pwynt PrisioGwestai (Gwelyau) Gwersyllfeydd (Safleoedd) Atyniadau Ymwelwyr (Ymwelwyr) Bwytai (Lleoedd) Canolfannau Cynadledda (Gallu)
£750100+dd/b125,000+dd/bDros 600
£50051-100Dros 20050-125,000Dros 50300-600
£250Hyd at 50Hyd at 200Hyd at 50,000Hyd at 50Hyd at 300
Sut wyf yn gwneud cais?
Sut mae fy nghais yn cael ei asesu?
Beth yw cost achrediad?
Beth yw buddion cyflawni achrediad Goriad Gwyrdd?

Cysylltwch â ni i wybod mwy: