Mae effeithiau cadarnhaol twristiaeth gyfrifol o fudd mawr i’r amgylchedd. Gall pob gwesty gymryd camau bach i leihau eu heffaith amgylcheddol. Mae gwestai sydd wedi cael y Goriad Gwyrdd wedi ymrwymo i greu newid amgylcheddol cadarnhaol.
Yn dilyn galw ar raddfa ryngwladol, mae Goriad Gwyrdd yn ddiweddar wedi datblygu cyfle i lety llai (gyda llai na 15 ystafell wely) gael effaith ar gynaliadwyedd amgylcheddol byd-eang. Os ydych yn dy llety, yn eco-gaban neu’n wely a brecwast, dyma eich cyfle i ychwanegu eich cyfraniad i dwristiaeth gyfrifol.
Mae gwersyllfeydd yn rhan fawr o’r diwydiant hamdden a rheolaeth amgylcheddol yng Nghymru. Mae gwersyllfeydd Goriad Gwyrdd yn rhoi cyfle i rannu eu polisïau amgylcheddol a’u nodweddion gwyrdd gyda gwesteion ac ymwelwyr.
Yn ddiweddar, mae Goriad Gwyrdd wedi datblygu meini prawf wedi eu hanelu’n benodol at y diwydiant bwytai gyda ffocws ar addysg a chynnyrch wedi ei darddu’n lleol. Mae’r Goriad Gwyrdd ar gyfer bwytai yn dathlu ac yn hyrwyddo sefydliadau sydd yn gwneud newidiadau tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Fel rhan o’r diwydiant hamdden sydd ar gynnydd, mae gan atyniadau hamdden rôl i’w chwarae yn cyflwyno ymagwedd fwy cynaliadwy tuag at reolaeth amgylcheddol. Mae gwobr Goriad Gwyrdd yn galluogi atyniadau i ddathlu eu cyflawniadau amgylcheddol ac ymrwymo i ddyfodol cynaliadwy.
Mewn ymateb i’r nifer gynyddol o fusnesau sydd eisiau gweithio gyda lleoliadau amgylcheddol ymwybodol sydd yn cael eu rhedeg yn gynaliadwy, mae Goriad Gwyrdd wedi creu achrediad ar gyfer lleoliadau cynadledda.