Proses cam wrth gam syml i wneud cais am wobr Goriad Gwyrdd
(trwy ebostio greenkey@keepwalestidy.cymru)
Diddordeb yn ymuno â Goriad Gwyrdd? Gallwch gofrestru eich diddordeb trwy ebostio’r tîm yn greenkey@keepwalestidy.cymru. Byddant mewn cysylltiad i fynd â chi trwy’r ffurflen gais sydd yn cynnwys agweddau amrywiol ar eich busnes; o ynni, gwastraff a dŵr, i gyfranogiad gwesteion a staff.