Mae gan Gymru’r arfordir mwyaf trawiadol ac amrywiol yn y DU.
Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr a chânt eu cydnabod ar draws y byd fel symbol o ansawdd. Rydym wedi rheoli’r Faner Las, Gwobr Arfordir Glas a’r Wobr Glan Môr ers dros 20 mlynedd.
I gael un o’r gwobrau blaenllaw hyn, mae’n rhaid i draeth, marina neu gwmni teithiau cychod fodloni a chynnal y safonau amgylcheddol uchaf a chyrraedd targedau ansawdd dŵr llym.
Pan fyddwch yn ymweld ag un o’n traethau, marinas, neu gwmnïau teithiau cychod sydd wedi ennill gwobrau, gallwch fod yn siŵr eich bod yn mwynhau cyrchfan lân, ddiogel, o safon fyd-eang.
Mae gan ein harfordir rywbeth i bawb. O draethau gwyliau traddodiadol i berlau bach tawel.
Mae’r Faner Las yn wobr amgylcheddol eiconig y mae miliynau o bobl ar draws y byd yn ymddiried ynddi.
Ers ei lansio ym 1987, mae’r Faner Las wedi trawsnewid ansawdd, glanweithdra, diogelwch a gwasanaethau dŵr. Mae bellach yn nodi’r traethau, y marinas a’r cwmnïau teithiau cychod gorau mewn bron 50 o wledydd.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod gan Gymru fwy o draethau’r Faner Las fesul milltir nag unrhyw le arall yn y DU.
Y Wobr Glan Môr yw’r safon cenedlaethol ar gyfer y traethau gorau ar draws y DU. Ble bynnag y byddwch yn gweld y faner melyn a glas eiconig yn hedfan, gwarentir darn arfordirol glân, deniadol, wedi ei reoli’n dda.
Mae Gwobrau Arfordir Gwyrdd yn cydnabod y traethau garw, hardd, heb eu cyffwrdd sydd yn rhan fawr o’n harfordir.
Efallai nad oes ganddynt gyfleusterau canolfannau glan môr mwy traddodiadol, ond mae gan draethau Gwobr Arfordir Gwyrdd ansawdd dŵr rhagorol a maent yn cydymffurfio â safonau amgylcheddol uchel.
Cyn dechrau eich cais, mae’n bwysig sefydlu pa wobr sydd yn iawn i’ch safle chi.
Yn ystod y tymor ymdrochi (hynny yw o fis Mai i fis Medi), mae ein traethau, marinas a’n cwmnïau teithiau cychod sydd wedi ennill gwobrau yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau hwyliog, am ddim i ymwelwyr a chymunedau arfordirol.
Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn sicrwydd i ymwelwyr eu bod wedi cyrraedd cyrchfan o ansawdd.