Cyn dechrau eich cais, mae’n bwysig sefydlu pa wobr sydd yn iawn i’ch safle chi.
Ar gyfer pob gwobr, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr meini prawf yn llawn.
Mae’r Faner Las yn wobr symbol rhyngwladol cydnabyddedig, sydd yn gysylltiedig â moroedd glân, gwasanaethau a chyfleusterau, ac mae’n offeryn pwysig i’r diwydiant twristiaeth yn arddangos ein traethau a’n marinas rhagorol. Datgelodd canlyniadau arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus fod dwy ran o dair o ymwelwyr yn dweud y byddai o bosibl neu yn sicr yn effeithio ar eu penderfyniad i fynd i’r traeth hwnnw yn benodol. Yn arwyddocaol, dywedodd dros 82% o fusnesau eu bod yn credu bod Gwobr y Faner Las yn helpu i ddenu ymwelwyr i’w lleoliad gan hybu’r economi leol.
Gellir cyflwyno ceisiadau o fis Tachwedd i fis Rhagfyr.
Gwneir ceisiadau ar-lein. Mae’n hanfodol bod y cydlynydd wedi gwneud ymweliad safle cyn y cais er mwyn sicrhau bod yn safle yn addas ar gyfer y wobr.
Cofrestru eich manylion a mewngofnodi
Ansawdd Dŵr
Ardaloedd cadwraeth
Pan fydd perchnogion / gweithredwyr traethau, marinas a chychod yn cael yr hawl i arddangos y Faner Las, mae hynny am eu bod wedi bodloni FEE, a’r Gweithredwr Cenedlaethol, Cadwch Gymru’n Daclus, eu bod wedi cydymffurfio, ar adeg y wobr, â nifer o feini prawf amgylcheddol, addysgol, diogelwch a hygyrchedd llym.
Yn dilyn y wobr, mae’r perchnogion / gweithredwyr yn derbyn cyfrifoldeb llawn dros sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’r holl feini prawf hyn. Er y gall FEE a Cadwch Gymru’n Daclus gynnal gwiriadau o safleoedd o bryd i’w gilydd, nid yw’r FEE na Cadwch Gymru’n Daclus, nac unrhyw un o’u swyddogion, aelodau, gwirfoddolwyr, nac aelodau o’u rheithgor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw berson os na fydd cydymffurfio.