Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn sicrwydd i ymwelwyr eu bod wedi cyrraedd cyrchfan o ansawdd.
Gyda nifer gynyddol o bobl yn penderfynu mynd ar wyliau gartref, mae ein lleoliadau sydd wedi ennill gwobrau nid yn unig yn rhan anhygoel o Gymru, ond maent yn atyniad i fusnesau lleol.
Os yw eich gwesty neu dŷ llety wedi ei leoli gerllaw traeth sydd wedi cael gwobr, bydd gan eich ymwelwyr sicrwydd o ddarn o arfordir glân, deniadol sydd wedi ei reoli’n dda.
Ynghŷd â Gwobrau’r Arfordir, mae’r Sefydliad Addysg Amgylcheddol hefyd yn datblygu eco-label arall ar gyfer llety: gwobr Goriad Gwyrdd.
Nod pecyn cymorth digidol Cymru Las yw eich ysbrydoli i godi llais am eich Baner Las leol, fydd yn ei dro yn gwella dealltwriaeth pobl o’u hardal ac yn denu cwsmeriaid i’ch busnes tra’n mwynhau’r amgylchedd rhagorol.
Ond nid yw’r Faner Las yn ymwneud ag edrych yn dda yn unig. Mae’n ymwneud â theimlo’n dda a chydnabod buddion aer y môr a thwristiaeth Cymru i bobl. Dyma pam yr ydym wedi creu’r pecyn cymorth digidol – amrywiaeth o gynnwys deinamig ac ymgysylltiol i chi ei rannu gyda’ch cwsmeriaid a’ch cynulleidfa ar-lein.
O bosteri wedi eu hargraffu i graffeg y cyfryngau cymdeithasol ac enghreifftiau o drydar – edrychwch ar y pecyn cymorth a’i ddefnyddio fel y dymunwch.
Mae Pecyn Cymorth Marchnata Llwybr Arfordir Cymru – yn adnodd ar-lein sydd am ddim ar gyfer pob busnes arfordirol. Mae wedi’i gynllunio i fod yn hawdd i’w ddefnyddio, efo ddeunydd a gwybodaeth, y gallwch eu lawrlwytho yma.