Ers ei lansio ym 1987, mae’r Faner Las wedi trawsnewid ansawdd, glanweithdra, diogelwch a gwasanaethau dŵr. Mae bellach yn nodi’r traethau, y marinas a’r cwmnïau teithiau cychod cynaliadwy gorau mewn bron 50 o wledydd.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod gan Gymru fwy o draethau’r Faner Las fesul milltir nag unrhyw le arall yn y DU.
Cyn cychwyn eich cais, mae’n bwysig sefydlu pa ddyfarniad sy’n iawn i’ch safle
Gan gydnabod y traethau hynny sy’n ‘drysorau cudd’ - y traethau hardd, garw, heb eu cyffwrdd ar hyd arfordir Cymru
Caiff y Wobr Glan Môr ei chynnal yng Nghymru a Gogledd Iwerddon