Yn ystod y tymor ymdrochi (hynny yw o fis Mai i fis Medi), mae ein traethau, marinas a’n cwmnïau teithiau cychod sydd wedi ennill gwobrau yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau hwyliog, am ddim i ymwelwyr a chymunedau arfordirol.
Efallai y cewch gyfle i ddysgu am ecosystemau morol gwerthfawr, archwilio llwybrau natur newydd, helpu i fonitro llygredd plastig, neu dorchi llewys a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd glanhau traethau a phrosiectau adfer.
Ein gobaith yw y bydd ymwelwyr sydd yn dychwelyd i’n harfordir trawiadol yn ei werthfawrogi yn fwy nag erioed ac yn mwynhau ein traethau a’n marinas mewn ffordd gyfrifol. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn gadael unrhyw olion o’ch ymweliad a’ch bod yn mynd â’ch sbwriel gartref gyda chi.
Cofiwch fod gan lawer o draethau gyfyngiadau ar waith o 1 Mai i 30 Medi.
Mae gan Croeso Cymru ganllaw defnyddiol i draethau sy’n gyfeillgar i gŵn drwy’r flwyddyn. Wrth gwrs, pan fyddwch allan gyda’ch ci, byddwch yn berchennog cyfrifol – yn y bag, yn y bin neu ewch ag ef gartref gyda chi.
Mae gan ein holl draethau sydd wedi cael gwobr ddiogelwch ymwelwyr mewn golwg, mae’n dibynnu tipyn ar y traeth a pha wobr sydd ganddo o ran yr hyn y gallwch ei ddisgwyl. Bydd gan draethau’r Faner Las naill ai wylwyr y glannau neu wardeniaid traeth trwy gydol y tymor ymdrochi. Mae gwybodaeth am ddiogelwch ar gael ar hysbysfwrdd y traeth.
Mae’n ofyniad bod gan o leiaf un traeth Baner Las mewn awdurdod lleol fynediad i’r traeth ar gyfer pobl anabl. Mae gan sawl traeth fynediad i gadeiriau olwyn traeth.
Rydym wrth ein bodd gyda’n traethau ac mae’n siŵr eich bod chi hefyd.
Gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr. Felly, beth am gynnal #ymgyrchglanhautraeth2funud y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r arfordir?
Neu, ymunwch â mudiad #CaruCymru – ein menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff. . .
Awyddus i lanhau eich traeth lleol? Ewch i Hybiau Codi Sbwriel Caru Cymru a’i fenthyg AM DDIM!
Rydym eisiau cysylltu gwirfoddolwyr brwdfrydig â grwpiau cymunedol yn eu hardal nhw.
Eisiau cynnal digwyddiadau glanhau rheolaidd gyda’ch ffrindiau neu gymdogion? Gallwn ni helpu!
Mae gan ein Arwyr Sbwriel i gyd un peth yn gyffredin – maent yn angerddol am eu cymuned ac eisiau gwneud gwahaniaeth.