Pwrpas Gwobr y Faner Werdd yw cysylltu pobl i’r parciau a’r mannau gwyrdd orau.
Mae’n feincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Ble bynnag y byddwch yn gweld y Faner Werdd, gallwch fod yn siŵr eich bod yn ymweld â lleoliad eithriadol o’r safon uchaf posib.
Rydyn ni yn rheoli’r cynllun yma yng Nghymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, gan ein bod yn gwybod fod amgylchedd o ansawdd dda yn cael effaith enfawr ar ein cymunedau, iechyd a lles, ac economi.
Gall amrywiaeth eang o fannau gwyrdd ymgeisio am Wobr y Faner Werdd, o barciau bach trefol i barciau gwledig anferth, campysau prifysgol, ystadau tai a hyd yn oed mynwentydd.
Mae yna hefyd Gwobr Gymunedol y Faner Werdd ar gyfer mannau gwyrdd a reolir gan y gymuned, fel rhandiroedd, coedwigoedd, gwarchodfeydd natur leol a gerddi cymunedol.
Caiff y ddwy wobr ei feirniadu gan fyddin o arbenigwyr mannau gwyrdd sy’n gwirfoddoli eu hamser a sgiliau i’r cynllun.
Marc ansawdd rhyngwladol parc neu fan gwyrdd.
Mae enillwyr y wobr hon yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal eu cyfleusterau rhagorol.
Eleni, mae 291 parc a man gwyrdd yng Nghymru wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd.