Green Flag Award
A A A

Cysylltu pobl i’r parciau a’r mannau gwyrdd orau

Pwrpas Gwobr y Faner Werdd yw cysylltu pobl i’r parciau a’r mannau gwyrdd orau.

Mae’n feincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Ble bynnag y byddwch yn gweld y Faner Werdd, gallwch fod yn siŵr eich bod yn ymweld â lleoliad eithriadol o’r safon uchaf posib.

Rydyn ni yn rheoli’r cynllun yma yng Nghymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, gan ein bod yn gwybod fod amgylchedd o ansawdd dda yn cael effaith enfawr ar ein cymunedau, iechyd a lles, ac economi.

Meddwl yn wahanol am fannau gwyrdd

Gall amrywiaeth eang o fannau gwyrdd ymgeisio am Wobr y Faner Werdd, o barciau bach trefol i barciau gwledig anferth, campysau prifysgol, ystadau tai a hyd yn oed mynwentydd.

Mae yna hefyd Gwobr Gymunedol y Faner Werdd ar gyfer mannau gwyrdd a reolir gan y gymuned, fel rhandiroedd, coedwigoedd, gwarchodfeydd natur leol a gerddi cymunedol.

Caiff y ddwy wobr ei feirniadu gan fyddin o arbenigwyr mannau gwyrdd sy’n gwirfoddoli eu hamser a sgiliau i’r cynllun.

Castell Sain Ffagan a'i Gerddi
Dysgu am Gwobr y Faner Werdd

Marc ansawdd rhyngwladol parc neu fan gwyrdd.

Darllen mwy
Gwobr Gymunedol y Faner Werdd

Mae enillwyr y wobr hon yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal eu cyfleusterau rhagorol.

Darllen mwy

Ein parciau a mannau gwyrdd

Eleni, mae 280 parc a man gwyrdd yng Nghymru wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd.

Cysylltwch â ni i wybod mwy: