Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yw’r meincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd a gaiff eu rheoli gan wirfoddolwyr. Ble bynnag y byddwch yn gweld y Faner Werdd, gallwch fod yn siŵr eich bod yn ymweld â lleoliad eithriadol o’r safon uchaf posib.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lucy Prisk neu 07469 118876.
Gall unrhyw fan gwyrdd cymunedol ymgeisio, cyhyd ag y bod y safle yn agored i’r cyhoedd mor aml â phosib (er rydyn ni yn deall nad yw’n bosib i bob parc/man gwyrdd fod ar agor drwy’r dydd, a bod rhai yn gyfyngedig i ddiwrnodau agored penodedig wedi eu hysbysebu).
Map rhyngweithiol yn dangos yr holl safleoedd sydd wedi ennill y wobr.
Ydy, y newyddion da yw nad oes cost i chi ymgeisio am Wobr Gymunedol y Faner Werdd.
Gwobrwyi’r parciau yn flynyddol, felly bydd angen i enillwyr ymgeisio pob blwyddyn er mwyn adnewyddu eu statws fel parc neu fan gwyrdd Y Faner Werdd.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw’r 31 Ionawr.
Cynhelir y beirniadu yn ystod tymor y gwanwyn, ac fel rheol, cyhoeddir holl enillwyr Gwobr y Faner Werdd ym mis Gorffennaf.
Bydd beirniaid annibynnol, profiadol sydd wedi eu hyfforddi i feirniadu ceisiadau Gwobr y Faner Werdd yn trefnu i ddod i ymweld â’ch safle ac i fynd drwy eich cais.
Beirniadir eich safle yn ôl wyth maen prawf allweddol:
Mae gwneud cais am y wobr yn broses hawdd ac yn rhad am ddim! Cofrestrwch eich parc ac uwch-lwytho’r dogfenni canlynol:
Mae gwneud cais am y wobr yn broses hawdd ac yn rhad am ddim!
Ydych chi yn aelod o staff sy’n rheoli parc neud fan gwyrdd? Darganfyddwch fwy am Wobr y Faner Werdd. Marc ansawdd rhyngwladol parc neu fan gwyrdd.