Ble bynnag y byddwch yn gweld y Faner Werdd, gallwch fod yn siŵr eich bod yn ymweld â lleoliad eithriadol o’r safon uchaf posib.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lucy Prisk neu 07469 118876.
Ydych safle chi yn cael ei reoli gan wirfoddolwyr? Darganfyddwch fwy am Wobr Gymunedol y Faner Werdd.
Mae’r gost yn amrywio yn dibynnu ar faint eich safle. Y costau ymgeisio ar gyfer y flwyddyn yma yw:
Gall amrywiaeth eang o fannau gwyrdd ymgeisio am Wobr y Faner Werdd, o barciau bach trefol i barciau gwledig anferth, campysau prifysgol, ystadau tai a hyd yn oed mynwentydd.
Os hoffech mwy o wybodaeth mae croeso i chi ofyn am lawlyfr y Faner Werdd.
Map rhyngweithiol yn dangos yr holl safleoedd sydd wedi ennill y wobr.
Gwobrwyi’r parciau yn flynyddol, felly bydd angen i enillwyr ymgeisio pob blwyddyn er mwyn adnewyddu eu statws fel parc neu fan gwyrdd Y Faner Werdd.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw’r 31ain o Ionawr.
Cynhelir y beirniadu yn ystod tymor y gwanwyn, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.
Bydd beirniaid annibynnol, profiadol sydd wedi eu hyfforddi i feirniadu ceisiadau Gwobr y Faner Werdd yn trefnu i ddod i ymweld â’ch safle ac i fynd drwy eich cais.
Beirniadir eich safle yn ôl wyth maen prawf allweddol:
Mae’n hawdd gwneud cais. Cofrestrwch eich parc ac uwch lwytho eich cynllun rheolaeth.
Am gyfarwyddiadau manylach, lawr lwythwch y ddogfen gam wrth gam yma
Oes! Mae Achrediad Safle Treftadaeth Werdd yn cael ei roi i fannau gwyrdd sy’n cyflawni safonau Gwobr y Faner Werdd ac sydd hefyd yn hyrwyddo elfennau o’u treftadaeth sy’n eu gwneud yn unigryw.
Mae’n rhaid i Safle Treftadaeth Werdd feddu ar Wobr y Faner Werdd (er ei fod yn bosibl gwneud cais am y ddau hyd yn oed yn y flwyddyn gyntaf).
Y gost yw £100 + TAW i wneud cais am Achrediad Treftadaeth y Faner Werdd.
I ganfod mwy am Achrediad Treftadaeth Werdd, cysylltwch â Lucy Prisk neu ffoniwch 07469 118876.
Applying is easy. Just register your park and upload your management plan.
A ydych eich safle wedi ei redeg gan wirfoddolwyr? Cymerwch olwg ar ein Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.